Gwobrau Diweddar
Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi ei hethol fel ‘Coach Friendly Visitor Attraction of the Year 2012’ yn y Gwobrau Twristiaeth Bysiau blynyddol, gan ddod uwchben Cyrchfan a Pharc Thema Alton Towers yn y rhestr. Cyflwynir y wobr i gydnabod ymrwymiad y Ganolfan i estyn croeso cynnes i fysiau, grwpiau bysiau a gyrwyr bysiau.

Tîm Grwpiau'r Ganolfan yn derbyn y wobr Coach Friendly Visitor Attraction of the Year
Ar ddiwedd 2009, yn ein pumed pen-blwydd, gwnaethom lwyddo i ennill tair safon ryngwladol; sef gwobrau ISO14001, Buddsoddwyr mewn Pobl ac Arwain a Rheoli.
Mae hyn yn golygu bod gennym dull rheoli amgylcheddol teilwng, adeilad ynni-effeithlon a thîm ymrwymedig, brwdfrydig sy'n ymroi ar bob lefel i gynnig y profiad gorau posibl i bawb.
Gwobr Buddsoddwyr mewn Pobl ac Arwain a Rheoli - Ein tîm yn y Ganolfan a Lesley Griffiths AM, Dirprwy Weinidog Dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Sgiliau.
"Dyma un o'r deg safon uchaf yn y byd ac nid yw'n hawdd ei chael. . . . . gwnaed cryn argraff ar dîm y BSI ac rydyn ni'n falch iawn bod ein henw ochr yn ochr â Chanolfan Mileniwm Cymru."
Syr David John, Cadeirydd BSI (y Sefydliad Safonau Prydeinig)
I gael rhagor o wybodaeth am y wobr hon a'n polisïau amgylcheddol cliciwch yma
Dewch yn ôl i'r dudalen yma i weld ein gwobrau diweddaraf
Ein Gwobrau
- Gwobr Theatr Fwyaf Croesawgar y DU 2008 TMA a chyrraedd y rownd derfynol yn 2009 a 2010 - yr unig sefydliad i wneud hynny deirgwaith o'r bron
- Gwobr RIBA (Cymru)
- Gwobr RICS (Cymru)
- Gwobr Ansawdd Ymgorfforol
- Gwobr MIPIM (y Gynhadledd Eiddo Rhyngwladol) am ragoriaeth
- Gwobr y Confensiwn Ewropeaidd am Waith Dur Adeileddol 2005 am ddefn
- ydd creadigol ac eithriadol o ddur mewn pensaernïaeth ac adeiladu
- Medal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol am Bensaernïaeth 2005
- Statws Platinwm Dosbarth Busnes gan Croeso Cymru ar gyfer ansawdd uchel ei chyfleusterau a gwasanaethau cyfarfod a chynadleddu
- Enillydd Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2007 - Gwobr Ansawdd a Gofal Cwsmeriaid
- Rownd derfynol Gwobrau'r Loteri Cymru 2006
- Gwobrau Arts and Business Cymru 2007 - enillodd y Ganolfan Wobr Gelfyddfydau Legal & General sy'n cydnabod y sefydliad celfyddydol sydd wedi gweithio yn y ffordd fwyaf creadigol mewn partneriaeth â Busnes
- Casglodd Legal & General y wobr am y Celfyddydau, Canolfan THE, Celfyddydau Cymunedol Rhondda Cynon Taf a Valley Kids.