Galli di wneud y Ganolfan yn arbennig
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn eich croesawu i archwilio'r amrywiaeth o yrfaoedd boddhaus, profiad gwaith a chyfleoedd ar gyfer interniaeth a phrentisiaeth sy'n ein galluogi i ddarparu profiad cwsmer rhagorol i'n cynulleidfaoedd a'n hymwelwyr. Ein pobl sy'n gwneud y Ganolfan yn lle arbennig ac sy'n dod â'r adeilad yn fyw.
Yn 2009, sef 5 mlynedd ers i'r Ganolfan agor, gwnaethom gyflawni'r safonau rhyngwladol Buddsoddwyr Mewn Pobl ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn llwyddiannus. Mae hyn yn golygu ein bod yn gofalu am y bobl sy'n gweithio i ni ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gennym.
- Addysg a Chyfranogi
- Codi Arian a Nawdd
- Cynadledda a Gwleddoedd
- Cysylltiadau Cyhoeddus
- Diogelwch Pobl ac Eiddo
- Glanhawyr a Staff Cynnal a Chadw
- Gwaith Gweinyddol
|
- Gwerthu Digwyddiadau
- Marchnata, Y Cyfryngau a Chyfathrebu
- Rhaglennu Theatr
- Staff y Bariau, Cogyddion a Gweinyddion
- Technegwyr Golau a Sain
- TG, Cyllid ac Adnoddau Dynol
- Tywyswyr a Gwerthu Tocynnau
|
Swyddi Gwag
|
Oriau |
Swydd Gwag |
Dyddiad Cau |
Manylion |
| |
|
|
|
| |
|
|
|
| |
|
|
|
|
|
|
|
| |
|
|
|
Cyfle Cyfartal
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, mae'r Ganolfan yn croesawu ceisiadau o bob sector o gymdeithas er mwyn adlewyrchu'r demograffeg leol ac ehangach.
Buddion Staff
Mae ein pecyn buddion hael yn rheswm gwych arall dros weithio i ni. Yn ogystal â chynllun gwyliau a phensiwn ardderchog, gall ein staff fanteisio ar docynnau theatr am ddim, gostyngiad ar bris aelodaeth â'r gampfa leol, cynllun rheoli perfformiad sy'n cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu a chyfle i gael gwersi Cymraeg am ddim.
Cyfleoedd Ychwanegol y Ganolfan
Gall y Ganolfan gynnig nifer cyfyngedig o leoliadau profiad gwaith i ddisgyblion ysgol yn ystod misoedd Mai, Mehefin a Gorffennaf bob blwyddyn. Gellir ymgeisio drwy'r wefan drwy gwblhau ffurflen gais ar gyfer profiad gwaith.
Swyddi Gwag Cyfredol
Noder bod gennym swyddi gwag parhaus gan ein bod yn recriwtio ar adegau gwahanol drwy gydol y flwyddyn. Caiff eich cais ei gadw ar ffeil, a chysylltir â chi pan fydd yr angen yn codi am rôl benodol.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglyn â recriwtio ffoniwch y llinell arbennig recriwtio ar 02920 634722 neu ebostiwch plsupport@wmc.org.uk