Egwyddorion Deori
Prosiect Deori
cyfle i greu, datblygu, ehangu rhwydweithiau a chael adborth
Deori yw prosiect datblygu creadigol Canolfan Mileniwm Cymru ac mae'n bodoli er mwyn cefnogi artistiaid a chwmnïau i greu gwaith newydd mewn cydweithrediad â'r Ganolfan a chael cymorth a chefnogaeth i werthuso a datblygu eu harfer.
Mae'r Prosiect Deori yn gweithio gyda chwmnïau newydd, rhai sydd yng nghanol eu gyrfa neu rhai sydd ag awydd newid cyfeiriad. Disgwylir y bydd Deori yn helpu i'r ddau barti rannu deialog greadigol a dysgu o'u profiad gyda'i gilydd.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus y prosiect yn cael
*lle i ymarfer am gyfnod o ddatblygu dwys, i roi tro ar syniadau newydd, arbrofi a chreu perthnasau
*adborth cynorthwyedig a chefnogaeth ddramäwriaeth gan aelodau o dîm rhaglennu a chynhyrchu'r Ganolfan a chynghorwyr dethol arbennig lle bo'n briodol
* cyfle i gymryd rhan mewn perfformiad, i ddangos eich gwaith i gynulleidfa gyffredinol a phobl broffesiynol o'r diwydiant a wahoddir.
* arbenigedd gan aelodau o dîmau cynhyrchu, marchnata, codi arian a thechnegol y Ganolfan lle bo'n briodol
* cyfraniad ariannol tuag at ddatblygu'r gwaith, i'w ddefnyddio ar gyfer costau cynhyrchu.
Mae'r Prosiect Deori yn croesawu ceisiadau gan gwmnïau sydd:
* yn gweithio yn y Gymraeg neu'r Saesneg
* yn archwilio ffiniau theatr, dawns, syrcas a chelfyddyd aml-ddisgyblaeth.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â:
Simon Coates, Cynhyrchydd Cysylltiol
Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, CF10 5AL
029 2063 4637 | simon.coates@wmc.org.uk
.