Pan fyddwch yn chwilio am y lleoliadau cynadledda perffaith, mae angen i chi gael rhywle sy'n edrych yn anhygoel o'r tu allan ac sy'n cynnig croeso cynnes a chyfforddus y tu mewn - ynghyd â'r gofod a'r cyfleusterau modern sydd eu hangen arnoch.
Dyma'n union a gewch yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. P'un a ydych yn cynllunio cynadleddau, digwyddiadau lletygarwch, priodasau neu berfformiadau, rydyn ni ar flaen y gad o ran yr hyn y gall lleoliad cynadledda rhyngwladol, modern ei gyflawni. Mae'r adeilad llwyddiannus sydd â phensaernïaeth arloesol a dyluniad modern, yn lleoliad celfyddydol a diwylliannol bywiog a gwefreiddiol a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Rydyn ni'n gartref i rai o ddigwyddiadau mwyaf nodedig Prydain; mae Canolfan Mileniwm Cymru yn lleoliad cynadledda sy'n darparu llwyfan o'r radd flaenaf ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau a pherfformiadau - o gyfarfodydd busnes, cynadleddau busnes mawr a digwyddiadau gwledda i sioeau cerdd poblogaidd a dawns ac opera o'r radd flaenaf.
Lleoliad Cynadledda Eiconig yng Nghalon Bae Caerdydd
Rydyn ni wedi ein lleoli yng nghanol datblygiad newydd Bae Caerdydd, lleoliad eiconig y gellir ei gyrraedd yn hawdd ar gyfer unrhyw ddigwyddiad. A chyda dros 15 o wahanol fannau ar gael mewn amrywiaeth eang o feintiau ac arddulliau, byddwch yn gallu dod o hyd i'r ystafell sy'n diwallu eich anghenion busnes chi yn benodol.