Skip to Navigation | Skip to Content |
Home Icon

Tiger Bay yn Cyflwyno

 

Gan rychwantu degawdau a chanrifoedd cornel fwyaf amlddiwylliannol Caerdydd, mae Tiger Bay yn Cyflwyno yn dod â rhaglen gwyl ffrinj ynghyd i ddathlu chwedloniaeth Tiger Bay. Gan ddwyn ynghyd detholiad o gerddoriaeth eiconig, straeon go iawn a thalentau lleol, mae Tiger Bay yn Cyflwyno yn rhannu straeon yr ardal, ei harwyddocâd hanesyddol i ddiwydiant a’r celfyddydau ac angerdd y bobl.

Gan weithio gyda’r Gyfnewidfa Ddiwylliannol a Threftadaeth leol a chwmni dylunio o Gaerdydd, Ongl Design+Make, bydd mannau cyhoeddus Canolfan Mileniwm Cymru yn cael ei thrawsffurfio drwy gydol mis Tachwedd i adlewyrchu diwydiant glo helaeth Tiger Bay. 

 

Ciniawa cyn mynd i’r Theatr yn ffresh

Rydym yn croesawu’r cogydd lleol, Geraldine Trotman, yn ei hôl i weini bwydlen i adlewyrchu ei gwreiddiau yn Tiger Bay ac India’r Gorllewin. Meddyliwch am flasau o’r Caribi gyda’i phrydau blasus, wedi’u hysbrydoli gan sawl cenhedlaeth o gogyddion anhygoel yn ei theulu a blynyddoedd pan oedd yn byw yn Barbados. 

Bydd bwydlen Geraldine ar gael yn ffresh ar nosweithiau Tiger Bay y Sioe Gerdd. Os ydych yn chwilio am bwdin blasus, bydd ei chacen banana a rỳm ar gael yn Caffi drwy gydol mis Tachwedd!

Opsiynau di-glwten a fegan ar gael.

I archebu bwrdd yn ffresh: yma

 

ffresh

Leroy Brito: Goreuon Butetown

Gwe 17 Tach 17
9pm | £15
Wedi Gwerthu'n Llwyr
Caffi

Y Llyfrgell Ddynol

Sad 18 Tach 17
Am Ddim | Taro heibio 14.00
Mae'r digwyddiad yma am ddim - tarwch heibio
Cyntedd Glanfa

Amgueddfa Dros Dro

Sad 18 Tach 17
Am Ddim 11:00 - 16:00
Mae'r digwyddiad yma am ddim - tarwch heibio
Canolfan Gymunedol Butetown

Tiger Bay Presents: RATS: Bricks and Mortar

Iau 23 Tach 17
7.30pm | Am Ddim
Mae'r digwyddiad yma am ddim - tarwch heibio
ffresh

Heart and Soul

Gwe 24 Tach - Sad 25 Tach 17
9pm | £15
Cyntedd Glanfa

Amgueddfa Dros Dro

Sad 25 Tach 17
Am Ddim 11:00 - 16:00
Mae'r digwyddiad yma am ddim - tarwch heibio