P’un a ydych chi’n dod yma am bryd hamddenol yn y bae, mwynhau pryd o fwyd cyn sioe, yn galw i mewn am ddiod gyda ffrindiau neu’n prynu anrhegion, mae gan Ganolfan Mileniwm Cymru amrywiaeth eang o ddewisiadau cyffrous.
Ac i’r rheiny ohonoch chi sy’n dod i weld perfformiad yn Theatr Donald Gordon, cewch fwynhau diodydd cyn y sioe neu yn ystod yr egwyl yn ein bariau Awen Penderyn, Stones a Horizons, lle mae’r ffenestri’n edrych allan trwy’r geiriau sydd ar flaen yr adeilad.