Mae gennym ni ddigonedd o bethau ar gael yn y Ganolfan - llawer mwy na dim ond eistedd yn y theatr i wylio sioe. Ynghyd â’n rhaglen yn Theatr Donald Gordon a Stiwdio Weston, mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd i ysgolion a’r gymuned trwy gydol y flwyddyn - i bawb o bob oed - a’r cyfan wedi’i anelu at roi cyfle i’n hymwelwyr ddod yn nes at gelfyddyd.
Bob tymor rydyn ni’n cynnig llu o gyfleoedd addysg yng Nghanolfan Mileniwm Cymru sydd yn cynnwys gweithdai, cyfleoedd i berfformio, ymweliadau teithiau tywys a sgyrsiau ac Wythnosau Dysgu.
Rydyn ni’n cynhyrchu poster sy’n cael ei anfon i ysgolion ledled Cymru bob tymor, a gallwch hefyd ei lawr lwytho yma. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y poster yma, i’w osod yn eich ystafell athrawon, yn eich helpu i ddysgu rhagor am yr hyn sydd gennym i’w gynnig y tymor yma. Os na fyddwch chi’n cael y poster trwy’r post ac os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, rhowch wybod i ni.
Cyfarfod y Tîm Dysgu a Chyfranogi
E-bost: addysg@wmc.org.uk
|
Sarah Roberts Rheolwraig Dysgu a Chyfranogi Ffôn: 029 2063 4632
|
Jason Camilleri Swyddog Dysgu a Chyfranogi Ffôn: 029 2063 4674
|
|
Steve Williams (Siaradwr Cymraeg) Swyddog Dysgu a Chyfranogi Ffôn: 029 2063 6450
|
Elan Isaac
(Siaradwr Cymraeg) Cynorthwyydd Dysgu a Chyfranogi Ffôn: 029 2063 6449
|
Lawrlwythwch gopi o’n hadolygiad cyntaf erioed o’n gweithgarwch rhad ac am ddim a chyfranogol a gynhaliwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2010-2011.
Mae’r ddogfen yma’n adlewyrchu’r sbectrwm eang o weithgarwch celfyddydol a gynigwyd gennym ni ledled Cymru y llynedd.
Hoffem ddiolch i bob artist, cwmni perfformio, cwmni preswyl a sefydliadau eraill sydd wedi cydweithio â ni yma yn y Ganolfan i ddarparu ystod mor eang o weithgareddau i ysgolion a’r cyhoedd. Rydyn ni’n falch dros ben o’r rydyn ni wedi ei gyflawni.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau ei ddarllen, a byddai’n braf clywed eich barn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda nifer ohonoch chi eto yn y dyfodol agos, ac rydyn ni bob amser yn agored i gyfleoedd newydd i gydweithio felly mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni ynghylch prosiectau posibl i’r dyfodol.