Teithiau

Taith Bensaernïol y Ganolfan


Noddir ac arweinir gan ddylunwyr yr adeilad, Capita Symonds Architecture

Noddir gan CAPITA SYMONDS

Architectural Tour

Os oes diddordeb gennych mewn pensaernïaeth, yn enwedig pensaernïaeth unigryw Canolfan Mileniwm Cymru ac am ddysgu mwy, archebwch le ar un o’r teithiau newydd.

Dros 90 munud, bydd un o’r prif benseiri (Jonathan Adams neu Lee Griffiths) yn egluro sut yr aethant ati i ddod a’u gweledigaeth yn fyw, y problemau oedd yn eu hwynebu a sut mai’n teimlo i fod wedi creu un o’r adeiladau mwyaf amlwg yn y byd.

Bydd y daith yn apelio at unrhyw un sydd â diddordeb mewn pensaernïaeth ac adeiladau - neu ar gyfer pobl sydd am ddeall mwy am y Ganolfan.

Ewch ar ein Rhith-daith 360

Cewch brofiad o’r adeilad o safbwynt y penseiri, gan ffocysu ar fanylion nodweddion y cynllunio sydd wedi ennyn llawer o ganmoliaeth a sylw’r cyhoedd a’r diwydiant.  Cewch hefyd glywed am yr uchafbwyntiau a’r troeon trwstan a brofwyd wrth greu adeilad cyhoeddus a bydd cyfle i ofyn cwestiynau mewn sesiwn cwestiwn ac ateb anffurfiol ar ddiwedd y daith.


I ARCHEBU
Mae’r dyddiadau’n brin, gan fod amserlen y penseiri yn llawn.

  • Dydd Gwener 5th Tachwedd 2010 - 10am

Tocynnau ar gyfer y daith yn £30 y person neu £25 i fyfyrwyr, gan gynnwys lluniaeth.

Cynigion Grwpiau
Grwpiau 10+: £25 y pen gan gynnwys lluniaeth
Grwpiau 25+: £20 y pen gan gynnwys lluniaeth

Y cam cyntaf fydd cysylltu â Archebion Grwp ar 029 2063 6464 opsiwn 4 neu
ar e-bost, group.sales@wmc.org.uk i gael manylion llawn, dyddiadau a’r amseroedd sydd ar gael.

HYGYRCHEDD
Mae lifft ar gael ac mae’r daith yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.  Wrth archebu, gadewch inni wybod am unrhyw anghenion arbennig.


Arweinir taith bensaernïol y Ganolfan gan un o’r prif benseiri canlynol:

Jonathan AdamsJonathan Adams
Capita Architecture

Lee GriffithsLee Griffiths
Capita Architecture



©Canolfan Mileniwm Cymru ® 2010
Cwmni cyfyngedig dan warant, cofrestredig yng Nghymru a Lloegr
Rhif cwmni 3221924; Rhif elusen 1060458
Cyfeiriad cofrestredig: Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL
Datblygwyd y Safle gan Dyluniwyd a datblygwyd gan Fusion