Mini Make and Do
Awst - Rhagfyr
Dyddiau Sadwrn 10.45am - 11.45am
Dyddiadau 4 Medi | 13 Tach | 4 Rhag
£5 y plentyn, fesul sesiwn. Mae’n rhaid i oedolyn ddod gydag unrhyw blentyn

Gadewch i'r rhai bach ymateb i'w dychymyg gyda glud, cardfwrdd, papur a darnau mân sgleiniog. Darperir yr holl ddeunydd ac ysbrydoliaeth - byddwn hyd yn oed yn clirio, gan adael i chi ymlacio, cael sgwrs dros baned neu ymuno yn yr hwyl! Bydd thema wahanol bob mis a fydd yn arwain eich plentyn i fyd o greu a gwneud. A bydd gan bob plentyn ddarn o grefft i fynd adref gydag ef ar ddiwedd y dydd.
I archebu, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2063 6464.

Cert Siopa
