Ymwelwyr Anabl
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn lle hygyrch. Mae drws awtomatig neu ddrws pwyso botwm wrth bob un o’r prif fynedfeydd i’r cyhoedd. Lleolir y lifftiau ar ddau ben y cyntedd a gellir cael mynediad i bob lefel. Ceir dolenni clywed ar bob cownter allweddol - tocynnau a gwybodaeth, drws y llwyfan, derbynfa’r Urdd, safleoedd gwerthu nwyddau a’r prif fariau.
Theatr Donald Gordon - Lleoedd i gadeiriau olwyn
Mae hyd at 22 o leoedd i ddefnyddwyr cadair olwyn yn y prif awditoriwm, sydd ar gael ym mhob perfformiad. Maent yn y seddi blaen, yn y seddi blaen uwch, cylch a’r cylch uchaf. Wrth archebu lle ar gyfer cadair olwyn rhowch wybod i’r swyddfa docynnau am unrhyw ofynion arbennig, gan gynnwys anghenion y cydymaith.
Stiwdio Weston
Un fynedfa gyhoeddus yn unig sydd i Stiwdio Weston. Fe’i lleolir ar Lefel 1 y De (Glanfa) a gellir ei chyrraedd trwy ddringo grisiau’r de neu gymryd y lifft i Lefel 1.
Ni ellir archebu seddi yn Stiwdio Weston. Mae yna le ar gyfer 4 defnyddiwr cadair olwyn â dau gydymaith yr un, ar y llawr gwastad o flaen y seddi esgynnol.
Cadeiriau Olwyn
Mae gennym 4 cadair olwyn y gellir eu defnyddio am ddim. Gellir archebu’r rhain trwy’r swyddfa docynnau ar 029 2063 6464. Gellir casglu’r cadeiriau olwyn o’r pwynt gwybodaeth wrth yr Angorfa (Gogledd)
Tân ac Argyfwng
Lleolir lloches i gwsmeriaid â symudedd cyfyngedig yn y cyntedd mewnol rhwng y prif gyntedd a’r awditoriwm. Mewn argyfwng byddwch yn cael eich hebrwng i’r lloches agosaf gan aelod o’r staff.
Gofyn am lyfryn - fformat wahanol
Os hoffech dderbyn ein llyfryn mewn print bras, Braille neu CD, gadewch i ni wybod pa fformat sydd orau gennych trwy ddefnyddio’n ffurflen gofyn am wybodaeth.

Cert Siopa
