Cipolwg o gapasiti yr ystafelloedd
Cipolwg o gapasiti yr ystafelloedd 02.07 (159Kb)
Lawrlwytho
Llogi Lleoliad
Arweiniad
Arweiniad i’r rhai sy’n dymuno priodi ar safle cymeradwy.
- Cyn gynted ag y bydd pâr wedi gwneud trefniadau dros dro ar gyfer eu priodas, fe ddylent gysylltu â’r cofrestrydd arolygol yn Swyddfa Gofrestru Caerdydd, ar gyfer y rhanbarth lle mae’r safle. Ffôn: 029 2087 1690.
- Os na fydd y cofrestrydd arolygol hwn a chofrestrydd yn bresennol nid yw priodas yn bosibl ac mae unrhyw drefniadau ar gyfer defnyddio’r safle yn dibynnu’n llwyr a ydynt ar gael. Mae’n hanfodol felly fod y pâr yn trefnu bod y cofrestrydd arolygol yn bresennol yn eu priodas arfaethedig cyn gynted ag y gellir derbyn cais am briodas. Bydd rhaid i’r pâr dalu ffi am y presenoldeb hwn cyn y seremoni.
- Bydd rhaid i’r pâr hefyd roi hysbysiad o briodas i gofrestrydd arolygol y rhanbarth(au) lle maen nhw’n byw. Rhaid cael yr hysbysiad hwn yn bersonol gan y ddau unigolyn ac mae’n ddilys am ddeuddeg mis. Dylai’r pâr, felly, fynychu’r swyddfa gofrestru/swyddfeydd cofrestru lle maen nhw’n byw cyn gynted ag y bo modd rhoi hysbysiad. Mae cyfnod aros o bymtheg diwrnod ar ôl rhoi hysbysiad cyn y gellir cynnal y briodas.
- Os yw unrhyw un o’r pâr yn destun rheolaeth mewnfudo, bydd gweithdrefnau pellach i’w cymryd cyn bod modd rhoi hysbysiad o briodas. Gall y cofrestrydd arolygol lleol roi cyngor pellach am y gweithdrefnau hyn.
- Dylid rhybuddio’r pâr Bod unrhyw drefniadau a wneir i gynnal priodas ar y safle cymeradwy yn dibynnu ar:
- bresenoldeb y cofrestrydd arolygol a chofrestrydd ar gyfer y rhanbarth; a,
- cyhoeddi’r atodlen partneriaeth sifil gan yr awdurdod cofrestru ar gyfer yr ardal lle mae’r safle.
- Dylai’r pâr gael gwybod mai dim ond y cofrestriad sifil, nad yw’n grefyddol y gellir ei ganiatáu gan y cofrestrydd partneriaeth sifil. Rhaid i’r cofrestrydd partneriaeth sifil a fydd yn mynychu’r cofrestriad gytuno ar gynnwys unrhyw achlysur ymlaen llaw.
- Mae unrhyw hawlfraint ar gyfer cerddoriaeth, darlleniadau ayb a ganiateir yn y cofrestriad yn fater i’r pâr a’r sawl sy’n dal y gymeradwyaeth.
©Canolfan Mileniwm Cymru ® 2010
Cwmni cyfyngedig dan warant, cofrestredig yng Nghymru a Lloegr
Rhif cwmni 3221924; Rhif elusen 1060458
Cyfeiriad cofrestredig: Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL
Datblygwyd y Safle gan