Priodasau / Partneriaethau Sifil

Llongyfarchiadau ar eich priodas. Gall Canolfan Mileniwm Cymru fod yn lleoliad priodas unigryw ac anarferol ar gyfer eich seremoni a derbynwest yng nghanol Bae Caerdydd a fydd yn un o’r cefndiroedd mwyaf trawiadol ar gyfer eich lluniau priodas.
Cliciwch yma i lawrlwytho pecyn priodas ddiweddaraf ;
Cliciwch yma i lawrlwytho sampl bwydlen priodas
Wrth i’ch diwrnod priodas agosáu, byddai’n bleser gennym eich helpu i drefnu eich dathliadau, drwy gynnig dewis o becynnau priodas cyflawn sy’n addas ar gyfer yr achlysur, ynghyd ag ardaloedd preifat amrywiol o fewn y Ganolfan, yn cynnwys cyntedd Awen sydd union y tu ôl i’r arysgrif ar flaen yr adeilad. Neu efallai eich bod wedi breuddwydio am gael eich gwasanaeth ar y llwyfan yn Theatr Donald Gordon? Gellir trefnu hyn hyd yn oed (os bydd y sioeau yn caniatáu wrth gwrs!)
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn lleoliad o’r radd flaenaf sy’n cynnig profiad unigol i chi gyda chyfleusterau a gwasanaethau gwych. Ffoniwch y tîm Digwyddiadau nawr ar 029 2063 4667 neu e-bostiwch eventsales@wmc.org.uk.
Priodas gyntaf y Ganolfan!
I greu’r diwrnod perffaith
Croeso Canapés
Bwyd Powlen
Ein Derbyniad Arbennig
Pecynnau Priodas
Arweiniad
Arweiniad i’r rhai sy’n dymuno priodi ar safle cymeradwy.

Cert Siopa
