Amdanom Ni

Mwy gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru


Delwedd gyfoes i Gymru

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
, yw un o gwmnïau dawns teithiol gorau Ewrop gyda rhaglen deithio helaeth yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mae’r cwmni yn dod â choreograffi mentrus a blaengar i Gymru, ac fe’i perfformir gan ddawnswyr sydd â dawn, unigolrwydd a chymeriad. Mae comisiynau diweddar yn cynnwys gweithiau gan Stephen Petronio (UDA), Itzik Galili (Yr Iseldiroedd), Nigel Charnock (y DU), Stijn Celis (Belg) a Roy Campbell-Moore (Cymru).

Ochr yn ochr â’r perfformiadau dawns egnïol mae’r cwmni yn cynnal rhaglen eang o waith estyn allan ac addysgiadol yn y gymuned drwyddi draw.

Yn ganolog hefyd i’n gwaith yw datblygiad y gelfyddyd yn ein cartref, y Tŷ Dawns yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Dyma un o’r canolfannau gorau ar gyfer cynhyrchu dawns ac mae’n cynnwys gofod perfformio perffaith, agos atoch a chyfforddus, ar gyfer llwyfannu perfformiadau’r cwmni ac ar gyfer arddangos doniau creadigol newydd a gwaith dawnswyr ifanc. Mae ganddo'i fynedfa ei hun yn Pierhead Street gyferbyn â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.


“Ym Milan fel yn Aberdaugleddau, ym Milbao fel yn Aberhonddu, rydym â’r un ymrwymiad i ddarparu dawnsio ysbrydolgar a difyr i’n cynulleidfaoedd oll.”
Ann Sholem, Cyfarwyddwr Artistig

Ewch i ndcwales.co.uk

Mae tocynnau ar gael ar gyfer y cynhyrchiadau canlynol:



©Canolfan Mileniwm Cymru ® 2010
Cwmni cyfyngedig dan warant, cofrestredig yng Nghymru a Lloegr
Rhif cwmni 3221924; Rhif elusen 1060458
Cyfeiriad cofrestredig: Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL
Datblygwyd y Safle gan Dyluniwyd a datblygwyd gan Fusion