Urdd Gobaith Cymru
Prif fudiad ieuenctid Cymru
Urdd Gobaith Cymru yw un o sefydliadau ieuenctid mwyaf Ewrop. Mae’n darparu gweithgareddau yn y byd chwaraeon a’r celfyddydau ar gyfer 53,000 o bobl ifanc yng Nghymru, rhwng 8 a 25 oed. Mae ei ganolfannau preswyl, sydd o’r safon uchaf, ar hyn o bryd yn rhoi cyfle i 30,000 o blant y flwyddyn gael profiad o weithgareddau awyr agored.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru bydd yr Urdd yn darparu llety i dros 150 o bobl ifanc. Bob blwyddyn bydd 10,000 o blant yn dod i aros am wyliau byr a rhai wythnos o hyd. Yn ystod y cyfnod hwn byddant yn creu perfformiadau, yn ymuno â gweithdai a gaiff eu cynnal gan gwmnïau preswyl celfyddydol eraill gan gyflwyno’u gwaith i’r cyhoedd.
Bob pedair blynedd, gan ddechrau yn 2005, bydd yr Urdd yn llwyfannu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Dyma’r wyl ieuenctid gystadleuol fwyaf yn Ewrop. Mae’n hybu celfyddydau a chreadigrwydd yr ifanc gyda 15,000 yn ennill eu lle yn y cystadlaethau terfynol yn ystod y dathliad wythnos o hyd.
Ticedi ar gael ar gyfer y cynhyrchiadau Urdd Gobaith Cymru canlynol:

Cert Siopa
