Criw Cymru FfurfLen Gais (1049Kb)
 Lawrlwytho

Hip Hop yn y Ganolfan

Hip hop y Bae

Beth yw hip hop? Cael amser da - a defnyddio be' sy' gen ti wneud rhywbeth unigryw, creadigol a gwreiddiol 'falle? Mae gwreiddiau hip hop yn Efrog Newydd, wrth i bobl ifanc ddefnyddio’u talent a’u hamgylchedd i fynegi eu hunain yn y ffordd orau bosib. Dyna pham fod hip hop mor amrywiol a ffresh... mae’n newid ac esblygu o hyd gyda’r bobl newydd sy’n dod yn rhan ohono. Gwylia fideo ar y BBC (Streetdance on the stage: A craze or high art?).

Ers 2005, rydyn ni wedi bod yn adeiladu rhaglen o ddigwyddiadau hip hop yn y Ganolfan i hyrwyddo’r bobl a’r gwaith gorau yn y gelfyddyd i gynulleidfaoedd Cymru. A hefyd i gynnig cyfle i bobl ifanc fod yn rhan o hip hop a gwella’u sgiliau.


BERW’R BAE
22 - 24 Hydref 2010

Mae gwyl theatr hip hop a stryd y Ganolfan yn ôl eto; byddwn ni’n ei chynnal yn yr hydref eleni yn hytrach na’i slot arferol yn yr haf.

O ganlyniad, gallwn ni gyflwyno taith Breakin’ Convention fel prif ddigwyddiad i’r wyl gyda pherfformiadau cyn sioeau yn y brif theatr ac yn ystod yr egwyl, gweithdai a gweithgareddau yn y cyntedd a llawr dawns agored gyda DJs byw, celf graffiti a sesiynau ‘freestyle’.

Byddwn ni'n diweddaru'r dudalen yma pan fydd manylion llawn yr holl ddigwyddiadau wedi eu cadarnhau. Felly cofia gadw golwg a dod yn ôl i'r dudalen i gael y manylion diweddaraf.


BREAKIN’ CONVENTION ’10
22 a 23 Hyd’10
7.30pm

Tocynnau Eistedd £15
Tocynnau Sefyll £10*
Dan 26 £10

Dyma seithfed flwyddyn hynod lwyddiannus Breakin’ Convention yn Llundain, ac mae’n dod i’r Ganolfan fel prif ddigwyddiadau nos Wener a Sadwrn Berw’r Bae. Bydd rhai o artistiaid hip hop gorau’r byd, a’r criwiau dawns lleol gorau yn meddiannu llwyfan Theatr Donald Gordon gyda pherfformiadau syfrdanol, sy’n cynnwys gwaith gwefreiddiol gan Sebastien a Raphael, dau B-Boy o Ffrainc a’r Almaen sy’n defnyddio dawns a thaflunio i greu triciau gweledol clyfar a delweddau swynol. Dan arweiniad yr arloeswr theatr dawns hip hop a Chyfarwyddwr Artistig Breakin’ Convention, Jonzi D, mae’r digwyddiad yma’n siwr o fod yn noson anhygoel mas.

Ynghyd â llu o weithgareddau am ddim gan Berw’r Bae yn ystod yr egwyl a chyn y perfformiadau yng nghynteddau’r Ganolfan, mae Breakin’ Convention yn llawer mwy na dim ond sioe - mae’n brofiad a hanner a fydd yn trawsnewid y Ganolfan gyfan. Cefnogir taith y DU Breakin’ Convention 2010 gan Dance Consortium.

“ On the evidence of the crowds packing Breakin’ Convention, the hip hop dance scene is boiling with energy”
The Guardian

*Ddim ar gael i’w prynu ar-lein

RHAGOR O FANYLION NEU ARCHEBU TOCYNNAU


BREAKIN’ CONVENTION HUB

Rydyn ni hefyd yn beth sy’n cael ei alw’n Breakin Convention Hub. Ystyr hynny yw ein bod yn rhan o rwydwaith ledled y DU gyda phob lleoliad sy’n cynnal rhaglen yn benodol i hip hop - gan gynnig cyfleoedd i’n cynulleidfa gysylltu â’u grwpiau a chynulleidfaoedd a chael y newyddion diweddaraf, ynghyd â pherfformiadau, blogs a fideos o bob math o bethau sy’n gysylltiedig â hip hop.



criw cymruCRIW CYMRU 2010

Amcanion y Prosiect
Menter Cymru-gyfan gan Ganolfan Mileniwm Cymru (y Ganolfan) yw Criw Cymru, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau celf drefol pobl ifanc. Yn 2008/09 cydweithiodd y Ganolfan gyda Galeri Caernarfon, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth a Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu i gynnal gweithdai i bobl ifanc 11-18 mlwydd oed gymryd rhan ynddyn nhw yng Ngogledd Cymru, y Canolbarth a’r De. Cawsant weithio gyda Sadler’s Wells yn Llundain hefyd i gael y perfformwyr a darparwyr gweithdai gorau yn y DU.

Prif nod y gweithdai yma yw helpu i bobl ifanc ledled Cymru gael cysylltiad â’r gelfyddyd hip hop trwy gyfrwng gweithdai gyda’r bwriad o fagu hyder a diddordeb yn y celfyddydau trefol,  neu i roi cyflwyniad i’r rhai sydd â’r gallu/diddordeb i gelfyddyd drefol newydd. Mae’n gyfle i ddatblygu unrhyw sgiliau sydd gan bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed eisoes, e.e. mewn ffurf arall ar ddawns ac ati.



 

Lleoliadau Criw Cymru yn 2010

2, 3, 4 Mehefin | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd | Ceredigion
Gweithdai dawns stryd gyda Liara Williams a Tara Bethan.

27, 28, 29 Gorffennaf | Galeri  | Caernarfon
Gyda’r dawnsiwr ac athro adnabyddus Jonzi D a dau aelod o’i gwmni - Monica Dhinn a Lil’ Tim. Bydd gweithdai’n cynnwys popio, locio a dawns stryd, a hefyd pwyslais ar gelf delynegol a pherfformiadau llafar.

31 Gorffennaf ac 1 Awst | y Ganolfan | Caerdydd
Gyda’r dawnsiwr ac athro adnabyddus Jonzi D a dau aelod o’i gwmni - Monica Dhinn a Lil’ Tim. Bydd gweithdai’n cynnwys popio, locio a dawns stryd, a hefyd pwyslais ar gelf delynegol a pherfformiadau llafar.

23, 24, 25 Awst | Theatr Brycheiniog | Aberhonddu
Dan arweiniad 2faced Dance Company o Henffordd. Bydd yn cynnwys diwrnod o gelf graffiti, diwrnod popio a locio a diwrnod dawns stryd.

23 - 29 Hydref | y Ganolfan | Caerdydd
Wythnos o gwrs preswyl sy’n seiliedig ar weithdai. Bydd pobl ifanc yn dod i’r Ganolfan i gymryd rhan, gan aros dros nos yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd. Bydd 25 yn cael eu dewis i gymryd rhan ac i ddysgu sgiliau, gan ddod i ben gyda pherfformiad cyn ‘B-Girl’ yn Theatr Donald Gordon.



©Canolfan Mileniwm Cymru ® 2010
Cwmni cyfyngedig dan warant, cofrestredig yng Nghymru a Lloegr
Rhif cwmni 3221924; Rhif elusen 1060458
Cyfeiriad cofrestredig: Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL
Datblygwyd y Safle gan Dyluniwyd a datblygwyd gan Fusion