Teithiau

Cewch gyfarfod Sefydliadau Preswyl y Ganolfan ar daith dywys newydd

Sponsored by CAPITA SYMONDS

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn lle unigryw lle rydyn ni, ynghyd ag wyth sefydliad diwylliannol arall, yn byw ac yn gweithio. Bydd ein teithiau tywys newydd yn rhoi cipolwg ar waith Sefydliadau Preswyl y Ganolfan ar daith sy'n mynd â chi o amgylch y safle cyfan. Cewch gwrdd â rhai o aelodau staff pob cwmni a dysgu mwy am yr hyn maen nhw’n ei wneud.

Ymunwch â ni ar ein Taith Sefydliadau Preswyl nesaf:

Dod yn fuan

  • Bydd y daith yn para awr a hanner ar y mwyaf
  • Mae tocynnau’n costio £5.50 i oedolyn, gyda gostyngiadau am £4.50.
  • Mae’r daith yn gwbl hygyrch ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.


Mae llefydd yn gyfyngedig felly archebwch o flaen llaw. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau ar 029 2063 6464 lle cewch hefyd ychwanegu unrhyw ofynion ychwanegol sydd eu hangen arnoch chi neu aelod o'ch grwp, gan gynnwys parcio ar y safle.

 

Gan fod y Ganolfan yn adeilad gweithredol, nodwch fod llwybr y daith yn agored i newid ar fyr rybudd.

 



©Canolfan Mileniwm Cymru ® 2010
Cwmni cyfyngedig dan warant, cofrestredig yng Nghymru a Lloegr
Rhif cwmni 3221924; Rhif elusen 1060458
Cyfeiriad cofrestredig: Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL
Datblygwyd y Safle gan Dyluniwyd a datblygwyd gan Fusion