Llogi Lleoliad
Mae canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig yr ateb perffaith ar gyfer pob math o ddigwyddiad

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi sefydlu'i hun fel un o leoliadau celfyddydol mwyaf blaenllaw y Byd. Mae yno ddwy theatr, pum ystafell ar gyfer digwyddiadau, orielau, siopau, lleoedd bwyta a chynteddau. Mae Canolfan Mileniwm Cymru'n cynnig adloniant heb ei ail, o enwau mawr sioeau'r west-end yn Theatr Donald Gordon sydd â 1897 o seddau, i sioeau mwy cartrefol yn Stiwdio Weston sydd â 250 o seddau, i'n perfformiadau dyddiol am ddim yn y cyntedd.
Mae Theatr Donald Gordon a Stiwdio Weston ar gael i'w llogi ar gyfer Cynyrchiadau Theatrig dros unrhyw gyfnod o amser - dyddiau, wythnosau neu fwy, gyda Lletygarwch ar gael mewn sawl ystafell wahanol yn y Ganolfan.Yn ogystal â hyn, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn darparu lleoliad bywiog ac ysbrydoledig ar gyfer eich holl anghenion diddanu corfforaethol a phreifat. Yn y lleoliad celfyddydau perfformio cyffrous hwn ceir dewis o ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd a gynlluniwyd i fod yn addas ar gyfer cynadleddau busnes, cyfarfodydd bwrdd, seminarau hyfforddi, lansio cynnyrch ac ati. Yn ychwanegol, mae mannau derbyn preifat hefyd ar gael ar gyfer grwpiau o bob maint ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol a chorfforaethol. Pe byddai angen arlwyaeth arnoch ar gyfer unrhyw un o'r digwyddiadau, byddwn yn sicrhau unrhyw ddigwyddiad y trefnwch o'r safon uchaf.
Cynhaliwyd y briodas gyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Awst 2006. Gellir cynnal priodasau a phartneriaethau sifil mewn unrhyw un o’i chwe lleoliad trwyddedig. Gellir cynnal y Wledd mewn dewis o dair ardal cyntedd gyda'r arysgrif yn gefndir i roi lleoliad bythgofiadwy ar gyfer diwrnod bythgofiadwy.
Mae o fewn cyrraedd hawdd i ganol y ddinas a chanol Bae Caerdydd, ac mae ein hystafelloedd yn lleoliad delfrydol ar gyfer lletygarwch. P'un a ydych yn cynllunio digwyddiad chwaraeon corfforaethol, yn trefnu dathliad ar gyfer eich cwmni, yn cynnal arddangosfa neu'n chwilio am le i gynnal parti pen-blwydd plant, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.
Beth bynnag yw natur eich digwyddiad, bydd y cyfuniad o leoliad unigryw y Ganolfan a phroffesiynoldeb ein staff yn sicrhau y bydd yn llwyddiant.
I gael gwybod mwy am sut y mae y Ganolfan yn ddewis delfrydol ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd eich busnes a phersonol, ffoniwch y tîm masnachol ar 029 2063 4667 neu anfonwch e-bost yn cynnwys manylion eich digwyddiad. Ar gyfer Cynyrchiadau Theatrig ffoniwch 029 2063 6431.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cael achrediad AIM (Accredited In Meetings) am y safon a’r gwasanaethau mae’n ei darparu ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd.
Mae Visit Britain a llyfryn gwyliau a theithio swyddogol y DU yn cefnogi’r Ganolfan yn llawn am ei gwasanaethau a’i safonau uchel.

Cert Siopa

