Mae Dy Le Di’n dod â’r holl gyfleoedd i chi fod yn rhan o Ganolfan Mileniwm Cymru at ei gilydd.
Eich Canolfan chi yw hi ac rydyn ni eisiau i bob un sy’n dod yma greu eu profiadau arbennig eu hunain. Trwy ein rhaglen o ddigwyddiadau cyfranogol ac am ddim, rydyn ni’n annog pawb i gymryd rhan ac i gael golwg y tu ôl i’r celfyddydau sydd i’w gweld ar ein llwyfannau, ar ein waliau neu yn ein gofod cyhoeddus.
Mae Dy Le Di’n defnyddio ‘llinynnau’ i gynrychioli gwahanol fathau o brofiadau i chi eu mwynhau; dyma esboniad byr o bob un.
Curiad - Emerging Artists
Mae gennym ni lwyfan, ac mae’n bwysig iawn i ni ein bod yn gallu rhoi cyfle i dalent addawol a doniau newydd berfformio ar y llwyfan cenedlaethol yma.
Hanfod - Your Heritage
Mae Hanfod yn dod â’r holl elfennau hynny sy’n cynrychioli treftadaeth a hunaniaeth ynghyd. Mae pawb yn perthyn i hanes, lle a phobl – ac mae Hanfod yn rhoi llwyfan i hynny.
AnturCelf - ArtsExplorer
Prif bwyslais AnturCelf yw rhoi cyfle i chi, y gynulleidfa, gymryd rhan yn ein rhaglen o weithgareddau – a bod yn rhan o’r Ganolfan.
Dan y Pared - Tuning into Welsh music
Rydyn ni eisiau dod â’r Sin Roc Gymraeg at ein cynulleidfa. Ac mae Dan y Pared yn cyflwyno gigs bach am ddim gan artistiaid, perfformwyr a chyfansoddwyr cyfoes gorau Cymru.
Yn ogystal â’n rhaglenni yn Theatr Donald Gordon a Stiwdio Weston, mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael trwy gydol y flwyddyn i ysgolion a chymunedau - yr ifanc a’r rhai hŷn - sydd wedi’u llunio i alluogi i’n hymwelwyr ddod yn nes at y celfyddydau. I weld gweithgareddau'r llynedd ac am wybodaeth ynghylch sut allech chi gymryd rhan, cliciwch yma i ddarllen ein hadolygiad cyntaf o’r gweithgarwch am ddim a chyfranogol a gynhaliwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2010-2011.