Skip to Navigation | Skip to Content |
Home Icon

Tŷ Cerdd

Cerddoriaeth Cymru i'r Byd

Mae Tŷ Cerdd (Canolfan Gerdd Cymru) yn ganolfan gynhwysfawr yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Ymhlith y cyfleusterau mae stiwdio recordio, cabanau gwrando a phwyntiau gwybodaeth, a llyfrgell helaeth o sgorau ymchwil a pherfformiadol.

Dyma rai o'r pethau mae Tŷ Cerdd yn eu cynnig:

  • Cefnogaeth i sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru
  • Gweithdai a phrosiectau addysg
  • Ensemblau cerddoriaeth cenedlaethol ieuenctid Cymru
  • Hyrwyddo cerddoriaeth a chyfansoddwyr Cymru
  • Comisiynau, ymchwil a pherfformiadau
  • Partneriaethau gyda chanolfannau cerdd rhyngwladol
  • Stiwdio recordio
  • Archif cerddoriaeth Gymreig
  • Llyfrgell fenthyg gerdd helaeth
  • 400 cymdeithas wedi ymaelodi - 20,000 o berfformwyr

I gael rhagor o wybodaeth am Tŷ Cerdd, ewch i'r wefan tycerdd.org