Oeddech chi’n gwybod…?
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal mwy o berfformiadau cyhoeddus am ddim nag unrhyw le arall yn y DU, gan gyflwyno dros 500 o berfformiadau i'n hymwelwyr bob blwyddyn.
Y llynedd, cymerodd 12,971 o bobl ran yn ein rhaglen Dysgu a Chyfranogi, a chael y cyfle i fwynhau'r celfyddydau a bod yn rhan ohonyn nhw am ddim, a hynny am y tro cyntaf mewn nifer o achosion.
Am bob £1 a gawn gan y Llywodraeth, mae angen i ni godi £4 drwy gynnal gweithgareddau codi arian a gweithgaredd masnachol i gefnogi ein hymrwymiad i sicrhau y gall pawb gael blas ar y celfyddydau.
Mae ein gwaith addysg ac allgymorth yn rhoi'r cyfle i gymaint o bobl gael profiadau artistig unigryw a bythgofiadwy, a daw'r cyfan yn bosibl drwy garedigrwydd ein cefnogwyr. Diolch i’ch haelioni chi, gallwn ni gynnal rhaglen o weithgareddau am ddim a chyfranogol o safon uchel i bawb eu mwynhau bob blwyddyn. I weld y gweithgarwch oedd yn bosibl yn 2010/11 diolch i’ch cefnogaeth chi, cliciwch yma. Diolch yn fawr.
Dyma sut y gallwch chi ein helpu...