Skip to Navigation | Skip to Content |
Home Icon

Teithiau Tywys

groups-tours

'Does dim rhaid i chi fod yn seren i sefyll yn
ystafelloedd gwisgo’r sêr…

Gallwch chi a’ch grŵp ychwanegu rhywbeth at eich profiad yma trwy ddewis o deithiau amrywiol sy’n rhoi golwg i chi o galon y Ganolfan.

Cyfunwch daith gyda sioe neu dewch draw i fwynhau un o’n teithiau ar eich pen eich hun - gyda phryd o fwyd yn ein Bar a Bwyty ffresh i goroni’r cyfan.

Taith tu ôl i’r llenni: Dim ond £4 y pen os archebir gyda sioe.
Heb sioe, y prisiau yw:

  • Grŵp o 10+: £5 y pen
  • Grŵp o 25+: £4.50 y pen
  • Grŵp Addysg 10+ (gyda sgwrs): £6.50 y pen

Mae gennym amrywiaeth o deithiau arbenigol hefyd, wedi’u hadeiladu o amgylch themâu ein Sefydliadau Preswyl; pensaernïaeth yr adeilad; ei agweddau technegol a hefyd Teithiau Cyffwrdd i rai â nam ar eu golwg.

Ar gyfer grwpiau o 10 neu ragor, cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion am yr argaeledd.