Noddir gan CAPITA SYMONDS
Does dim rhaid i chi fod yn seren i sefyll yn
ystafelloedd gwisgo’r sêr…
Gallwch chi a’ch grŵp ychwanegu rhywbeth at eich profiad gyda ni trwy ddewis o amrywiaeth o deithiau sy’n rhoi golwg i chi o galon y Ganolfan.
Cyfunwch daith gyda sioe neu dewch draw i fwynhau taith ar ei phen ei hun – efallai gyda phryd o fwyd yn ein Bar a Bwyty ffresh ein hunain i orffen y dydd gyda ni.
Taith tu ôl i’r llenni: Dim ond £3.50 y pen os archebir gyda sioe.
Heb sioe, y prisiau yw:
- Grŵp 10+ £4.50 y pen
- Grwpiau 25+ £4 y pen
- Grŵp Addysg 10+ (gyda sgwrs) £6 y pen
Mae gennym amrywiol deithiau arbenigol hefyd, wedi’u hadeiladu o gwmpas themâu ein Sefydliadau Preswyl; pensaernïaeth yr adeilad; ei agweddau technegol a hefyd Teithiau Cyffwrdd i rai â nam ar eu golwg.
Ar gyfer grwpiau o fwy na 10, llenwch y ffurflen isod a Thaflen Gyswllt Deithiau a byddwn yn cysylltu â chi gyda gwybodaeth argaeledd.