
Q-Park Bae Caerdydd
Lle i 1,237 cerbyd | Ar agor 24 awr
Stryd Pierhead (ger Canolfan Mileniwm Cymru)
CF10 4PH
Cynnig Parcio
Lleolir Maes Parcio Q-Park Bae Caerdydd wrth ymyl y Ganolfan ac mae wedi llwyddo i ennill gwobr y 'Park Mark' ar gyfer parcio diogel gan y Swyddfa Gartref (cliciwch yma am ragor o fanylion).
Trwy ein partneriaeth gyda'r maes parcio, gall cwsmeriaid y Ganolfan dalu o flaen llaw i barcio am bris gostyngol o £3.60.

Archebwch daleb parcio o flaen llaw ar y pris rhatach trwy ffonio ein Swyddfa Docynnau ar 029 2063 6464.
*Gan ddibynnu ar pryd rydych chi'n ymweld â ni, byddwn ni un ai'n anfon taleb atoch chi yn y post neu bydd angen i chi ei gasglu pan fyddwch chi'n cyrraedd y Ganolfan. |
Sut Mae'r Broses yn Gweithio
Ewch i mewn i Faes Parcio Q-Park Bae Caerdydd gan gasglu eich Tocyn Parcio wrth y fynedfa fel arfer.
Dewch i Ddesg Docynnau y Ganolfan gyda'ch Taleb a Thocyn Parcio i'w ddilysu.
Casglwch eich Tocyn Parcio newydd o'r peiriant a'i ddefnyddio yn yr atalfa wrth yrru allan.
Wedi prynu eich tocynnau? Gallwch chi dal fanteisio ar y cynnig trwy ddyfynnu rhif eich archeb wrth archebu. |

|
Maes Parcio i'r Anabl
Cliciwch yma am fanylion
Cei'r Fôr-forwyn
Lle i 380 cerbyd | Ar agor 24 awr
Ewch i mermaidquay.co.uk am brisiau parcio.
Stryd Havannah
Lle i 250 cerbyd | Ger Techniquest a Gwesty Dewi Sant