Skip to Navigation | Skip to Content |
Home Icon
Theatr Donald Gordon

Noson yng nghwmni Patti Smith

Gyda Lenny Kaye a Tony Shanahan
12 Meh 2018

Tocynnau (8 sedd ar y mwyaf i bob archeb):
£25-£40

Canllaw Oed: 14+ (Dim plant dan 2 oed).

 

Patti Smith. Cerddor. Artist. Ymgyrchwraig. Bardd.

Yn y 70au, daeth Patti yn hynod ddylanwadol ar sîn pync Efrog Newydd. Bu'n artist ers pedwar degawd, ac mae ganddi'r gallu i swyno pobl. Mae'n bleser aruthrol gan ŵyl y Llais i'w gwahodd i berfformio yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers iddi chware i dorf yn y Gyfnewidfa Lo yn 2011.

Yn 2009 cafodd Horses, record gyntaf Patti yn 1975, ei chynnwys ar y Gofrestr Recordio Genedlaethol yn Llyfrgell y Gyngres. Mae'n gyfrifol am 13 albwm, wedi cael 4 enwebiad Grammy, ac enwebiad Golden Globe am y gân Mercy Is o'r ffilm Noah. Detholiad yn unig yw hynny o'r gwobrau, yr enwebiadau a'r anrhydeddau y mae'r fenyw ryfeddol hon wedi'u hennill.

Mae Patti Smith yn parhau i ysgrifennu, i berfformio'i gwaith, i weithio ar brosiectau artistig, ac i roi ei chefnogaeth i faterion hawliau dynol. 

 

Ychwanegu sylw


Mae'n rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i ychwanegu sylw. Mewngofnodi | Cofrestru

Does dim sylwadau ar y cynhyrchiad yma ar hyn o bryd.
Date
Time
Prices
Access*
Extras
 
Maw 12 Meh
8:00pm £25.00 - £40.00  
Seddi Ecsgliwsif Wedi’u Neilltuo i Aelodau Addewid