Skip to Navigation | Skip to Content |
Home Icon
Stiwdio Weston
Theatr Genedlaethol Cymru

Nyrsys

Gan Bethan Marlow. Caneuon gan Rhys Taylor & Bethan Marlow
17 Ebr 2018

Tocynnau: £5

Canllaw Oed: 13+ (Dim plant o dan 2 oed)

A hithau’n flwyddyn pan fo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed, cawn gipolwg ar brysurdeb dyddiol ward canser mewn ysbyty yng Nghymru heddiw, gyda sgript a chaneuon wedi’u llunio o gyfweliadau â nyrsys ‘go iawn’.

Mae’r ddrama newydd hon yn rhoi llwyfan i brofiadau nyrsys – yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu yn eu gwaith o ddydd i ddydd, a’r direidi, y chwaergarwch, a’r teimlad o alwedigaeth sy’n eu cynnal. Dyma ddarlun o’r galon o fywyd a gwaith yr arwyr hyn sy’n gofalu amdanom ni ac am ein hanwyliaid mewn cyfundrefn iechyd dan bwysau parhaol.

Gyda Sara Lloyd yn cyfarwyddo, dyma gyflwyniad cyhoeddus cyntaf o waith-ar-waith. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich adborth i’r ddrama feiddgar hon cyn i’r awdur a’r cwmni fynd ati i greu’r cynhyrchiad a fydd yn teithio ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2018.

Cyflwynir Nyrsys mewn cydweithrediad â Pontio.

Mae Perfformiadau i'r Chwilfrydig yn dymor o waith newydd cyffrous, pwerus a chanmoliaethus a'r gorau oll mewn theatr a pherfformio cyfoes gyda rhaglen ffraeth o gomedi, cabaret, cerddoriaeth, y gair llafar a nosweithiau llwyfan agored.

Y rhaglen gyfan

extra-whiteTocynnau Stiwdio Weston

Ni chaiff tocynnau i sioeau Stiwdio Weston eu neilltuo i seddi penodol, felly dewch yn gynnar i gael y seddi gorau.

Ychwanegu sylw

Mae'n rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i ychwanegu sylw. Mewngofnodi | Cofrestru

Does dim sylwadau ar y cynhyrchiad yma ar hyn o bryd.
 
Mae Perfformiadau i'r Chwilfrydig yn dymor o waith newydd cyffrous, pwerus a chanmoliaethus a'r gorau oll mewn theatr a pherfformio cyfoes gyda rhaglen ffraeth o gomedi, cabaret, cerddoriaeth, y gair llafar a nosweithiau llwyfan agored.

Y rhaglen gyfan

extra-whiteTocynnau Stiwdio Weston

Ni chaiff tocynnau i sioeau Stiwdio Weston eu neilltuo i seddi penodol, felly dewch yn gynnar i gael y seddi gorau.

Date
Time
Prices
Access*
Extras
 
Maw 17 Ebr
8:00pm £5.00  
 
Sisters

Sisters

20 Ebr 18

Sgwrs ar draws cyfandiroedd am gyfoethogrwydd, cymhlethdod ac amrywiaeth bod yn fenyw De Asiaidd heddiw.  Mae Sisters yn gynhyrchiad ar waith a ddatblygwyd gan National Theatre Wales gyda Junoon Theatre, ac artistiaid o Gymru ac India y mae eu gwreiddiau diwylliannol a’u hanes yn gynhenid gysylltiedig.

'Dwy'

'Dwy'

18 Ebr 18

Dwy chwaer. Dwy ddramodwraig newydd. Dwy ddrama.