Skip to Navigation | Skip to Content |
Home Icon
ffresh
Cwpwrdd Nansi @ ffresh

Alaw

23 Maw 2018

Drysau'n agor: 8pm
Perfformiad yn dechrau: 9pm

Canllaw Oed: 16+

Cariad at alawon hyfryd sydd wrth wraidd y grŵp yma. Gan alw ar gyfoeth o brofiadau cerddorol, aiff Alaw â'u cynulleidfa ar daith gerddorol - tôn ddychwelodd o daith ym Mwlgaria neu gywaith yn India - ond angerdd dros hen alawon Cymru yw curiad calon eu cerddoriaeth.

O'r cain hyd y penigamp, mae Alaw'n chwarae mewn cytgord sy'n tarddu o flynyddoedd lawer o gydweithio. Bu Dylan ac Oliver yn perfformio yn Szapora a The Ian McMillan Orchestra. Mae Oliver a Jamie yn adnabyddus ledled y byd gwerin fel rheng flaen Jamie Smith's Mabon.

"A top band led by one hell of an accordion player"
Mike Harding, BBC Radio 2

"A bunch of top-drawer world musicians"
John Medd, Nott Eve Post

Mae Cwpwrdd Nansi @ Ffresh yn dod â'r goreuon oll mewn cân werin i lwyfan Cabaret y Ganolfan. Mewn cyd-gynhyrchiad â trac, asiantaeth genedlaethol cerddoriaeth gwerin, mae'n cynnwys perfformwyr newydd, adloniant heb ei ail a llond bol o dân dros wlad y gân.
 
Cefnogir trac gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Celfyddydau Cymru ac Uned Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru.  

Mae Perfformiadau i'r Chwilfrydig yn dymor o waith newydd cyffrous, pwerus a chanmoliaethus a'r gorau oll mewn theatr a pherfformio cyfoes gyda rhaglen ffraeth o gomedi, cabaret, cerddoriaeth, y gair llafar a nosweithiau llwyfan agored.

Y rhaglen gyfan

Ychwanegu sylw

Mae'n rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i ychwanegu sylw. Mewngofnodi | Cofrestru

Does dim sylwadau ar y cynhyrchiad yma ar hyn o bryd.

Mae Perfformiadau i'r Chwilfrydig yn dymor o waith newydd cyffrous, pwerus a chanmoliaethus a'r gorau oll mewn theatr a pherfformio cyfoes gyda rhaglen ffraeth o gomedi, cabaret, cerddoriaeth, y gair llafar a nosweithiau llwyfan agored.

Y rhaglen gyfan

Date
Time
Prices
Access*
Extras
 
Gwe 23 Maw
9:00pm £15.00  
 
Dave Jones

Dave Jones

04 Mai 18

Mae Dave Jones (piano) yn perfformio cerddoriaeth o'i albwm pedwarawd canmoladwy 'KeyNotes'.

Snowpoet/Edition Records

Mae Snowpoet yn un o fandiau mwyaf creadigol, cyfoes a blaengar y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.