Oes gennych chi ddiddordeb yn y diwydiannau creadigol? Ydych chi awydd dysgu sgiliau newydd a fydd o gymorth i chi yn y byd creadigol? Os felly, efallai mai dyma’r cwrs perffaith i chi.
Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw chwe wythnos o hyd sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’i diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i roi’r amser i bobl ifanc ddysgu a chreu, a hynny yn unol â’n nod o godi dyheadau pob person ifanc yng Nghymru.
Waeth beth yw eich diddordeb – p’un ai radio neu greu ffilmiau – neu os ydych chi am roi cynnig ar rywbeth hollol newydd, mae gennym ni bedwar cwrs gwych ar eich cyfer chi:
17 Chwefror - 24 Mawrth 2021
Sgrin a ffilm18 Chwefror - 25 Mawrth 2021
Bod yn greadigol23 Chwefror - 30 Mawrth 2021
Ysgrifennu creadigol1 Chwefror - 1 Mawrth 2021
Radio - CWRS YN LLAWNCyflwynir bob cwrs gan artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr ffilmiau ac fe fyddant yn eich cefnogi drwy gydol y cwrs. Wrth gymryd rhan yn y cwrs yma byddwch yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad cyrsiau Llais Creadigol y dyfodol.
I bwy mae’r rhaglen?
Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14-25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.
Mae’r cyrsiau ar lefel mynediad ac wedi’u teilwra ar gyfer y rheiny sy’n chwilfrydig, i gychwynwyr, ac i’r rheiny sy’n edrych am gyfle i ddiweddaru eu sgiliau.

Hygyrchedd
Ein nod yw cynnal rhaglen sy’n gynhwysol ac yn agored i bawb. Os hoffech chi gymryd rhan, a fo gennych chi anghenion hygyrchedd ychwanegol, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni drwy education@wmc.org.uk.
Neu, os ydych chi'n gwmni sydd â diddordeb mewn cefnogi ein rhaglen, cysylltwch â Sian Morgan (Cyfarwyddwr Datblygu a Phartneriaethau) sian.morgan@wmc.org.uk os gwelwch yn dda.