Os dewch chi i'n gweld ni yn ystod hanner tymor neu yn ystod gwyliau'r ysgol, fe welwch chi ein bod ni'n gweithio ar rywbeth mwy uchelgeisiol.
Yn ystod y gwyliau, rydyn ni'n adeiladu rhywbeth mawr, sy'n cynnwys gweithdy crefftau bob dydd am wythnos rhwng 11yb a 4yp (heblaw dydd Sul).
Mae pawb yn gweithio gyda'i gilydd i greu darn enfawr o gelf sy'n llenwi cyntedd y Lanfa.
Mae'r prosiectau blaenorol yn cynnwys; adeiladu cymuned gardfwrdd newydd, creu bydysawd, baneri Swffragetiaid a pharti môr-ladron, ac mae pob gweithgaredd wedi bod yn wych.
Y canlyniad yw gwaith celf anhygoel, sy'n esblygu a sydd wedi'i greu yn llwyr gan ein crefftwyr bach talentog.
Ewch i'r wefan i weld gwybodaeth am ein gweithgareddau celf nesaf yn ystod y gwyliau, a dewch draw i Adeiladu drwy'r Gwyliau