Mae’r chwilio wedi dechrau i ddod o hyd i grwpiau talentog o ysgolion i ddod i berfformio ar lwyfan Glanfa.
Dyma gyfle arbennig i ysgolion ddod i berfformio yma bob prynhawn dydd Iau cyn ein perfformiad matinee yn Theatr Donald Gordon.
Rydyn ni’n chwilio am amrywiaeth o berfformiadau felly chi sydd i benderfynu sut hoffech chi arddangos talentau eich ysgol.
Bydd y perfformiadau yn cymryd lle bob prynhawn dydd Iau rhwng 16 Hydref – 19 Rhagfyr 2019.
SUT I YMGEISIO
Danfonwch fideo neu glip sain fer (dim mwy na dwy funud o hyd) o’ch perfformiad trwy e-bost neu gan ddefnyddio gwefan rhannu ffeiliau am ddim megis WeTransfer neu Dropbox.
*Cofiwch gynnwys y wybodaeth ganlynol yn eich e-bost:
- Eich dyddiad perfformio dewisol
- Enw eich act
- Y nifer o berfformwyr sy’n cymryd rhan
- Hoffech chi gael gofod i fwyta’ch cinio?
- Hoffech chi ddefnyddio ein piano?
- A fyddwch chi’n dod â cherddoriaeth cefndirol?
- A fyddwch chi’n dod ag unrhyw cyfarpar gyda chi?Unrhyw wybodaeth ychwanegol gall fod yn ddefnyddiol
DEWIS Y PERFFORMIADAU
Bydd panel o aelodau’r gymuned, gwirfoddolwyr a staff yn dewis y perfformwyr. Os nad ydych chi’n cael eich dewis y tro yma, peidiwch â digalonni, mae gennym ni nifer cyfyngedig o slotiau trwy gydol y flwyddyn, ond byddwn ni yn ôl mewn cysylltiad gyda chi os daw cyfle arall.
BYDD SY’N DIGWYDD AR Y DIWRNOD
Gallwch chi gadw eich eiddo yn ein hystafell gotiau. Ar ôl i chi gyrraedd bydd technegydd yn cwrdd â chi a fydd angen unrhyw gerddoriaeth gefndirol (ar ffon gof USB) ac offer (gyda phrawf PAT) sydd gennych, er mwyn iddynt allu helpu chi i baratoi.
Ar ôl hynny, mae’r awenau’n cael eu trosglwyddo i chi a gweddill y perfformwyr i gymryd eu lle ar y llwyfan a chael prynhawn arbennig gyda ni.
Felly, dewch yn llu i’n helpu i greu prynhawn cofiadwy o berfformiadau sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth a’r doniau sydd i’w ddarganfod yng Nghymru.
Wedi hynny, mater i chi a'ch ysgol yw cymryd i’r llwyfan a chael prynhawn cofiadwy gyda ni.
Dyma gyfle i bobl ifanc mewn ysgolion gael platfform i arddangos eu talentau. Mae’n gyfle di-dâl sydd ddim yn addas ar gyfer artistiaid proffesiynol