Fel cartref i'r celfyddydau yng Nghymru, rydyn ni'n tanio angerdd at y celfyddydau ym mhobl ifanc, yn darparu profiadau dysgu bythgofiadwy, gweithdai ymarferol a phrentisiaethau.

A pha le gwell sydd i wneud eich prentisiaeth nag un o'r theatrau mwyaf gwefreiddiol a moethus ym Mhrydain?

Ein Cynllun Prentisiaeth

Mae ein rhaglen brentisiaeth greadigol yn gyfle perffaith i bobl ifanc sy'n edrych i ennill profiad ar y swydd wrth astudio ar gyfer cymhwyster cenedlaethol..

  I learned so much. Applying for the apprenticeship was the best decision I made to help further my career in the world of technical theatre.

Rowan, 2018 graduate

Yn ogystal â'r cymhwyster prentistiaeth, bydd y prentisiaid yn defnyddio gwobr efydd yr ABTT (Association of British Theatre Technicians) fel meincnod, ac yn cyflawni cymaint o unedau a phosib yn ystod eu prentisiaeth.

Rydyn ni'n gweithio gydag arbenigwyr y diwydiant i ddarparu cyrsiau megis rigio, trydan, sain a goleuo.

Os hoffech chi wybod mwy am y prentisiaethau, e-bostiwch ni ar apprenticeship@wmc.org.uk