Dewch i ymuno â'n côr, Sing Proud Cymru, a dewch yn rhan o rywbeth arbennig.
Mae Sing Proud Cymru yn brosiect ar y cyd rhyngom ni a Voices from Care Cymru ac yn bwriadu rhoi'r cyfle gorau i blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi profi gofal i fynegi eu hunain.
Mae’r côr yma yn pontio’r cenedlaethau ac yn dod â phobl ifanc sydd wedi profi gofal ynghyd â’r rheiny sy’n eu cefnogi, gan gynnwys teuluoedd maeth, gweithwyr cymdeithasol a’r rhai sy’n gadael gofal.
Rydym wedi ein hymrwymo i sicrhau bod gan bawb lais a phlatfform i fynegi eu hunain.
Sut ydw i’n ymuno â’r côr?
Lawrlwythwch y ffurflen a’i ddychwelyd at addysg@wmc.org.uk
SUT YDYN NI'N CWRDD?
O achos y pandemig Coronafeirws, rydyn ni'n cwrdd arlein i ymarfer.

Pa oed sydd angen bod er mwyn ymuno?
Gall unrhywun ymuno'r côr, ond rhaid i bobl ifanc dan 18 oed fynychu gyda rhiant neu warcheidwr.
Oes cyfle i berfformio?
Oes, mae yna gyfle i berfformio! Rydym yn chwilio am bob cyfle i’r côr i allu canu!
Yn ddiweddar rydym wedi canu yn y Glanfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru cyn matinee 'Matilda', yng ngŵyl Voices From Care Cymru, 'Proud to be Me' ac yng NgŵylGrai yma yn y Ganolfan.
Cyfle i chi fynegi eich hun, dysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd a mwynhau.
Caiff y gwaith yma ei gefnogi gan y Rayne Foundation