Dyma noson llawn creadigrwydd artistiaid Cymru wrth iddyn nhw blethu diwylliant a dawns frodorol gyda straeon am wasgariad Affricanaidd ar draws Cymru.
Bevin Magama, storïwr ac awdur lleol, bydd yn agor y noson gyda ffurfiau traddodiadol a chyfareddol o adrodd straeon. Yna, bydd dawnswyr, perfformwyr a cherddorion o’r cwmni dawns fawr ei glod Nimba yn hawlio’n sylw.