Ma ‘na lwyth yn digwydd yn y Ganolfan dros y Nadolig i gadw dwylo bach yn brysur a chrefftus. Bydd ein sesiynau celf a chrefft yn digwydd ar y diwrnodau canlynol o 10am-4pm yn y Glanfa.
1 - 2 Rhagfyr
Galwch heibio i greu coronblethi Nadolig ac addurniadau i’r goeden.
8 - 9 Rhagfyr
Ynghyd â chreu coronblethi Nadolig ac addurniadau mi fyddwn ni hefyd yn creu pecynnau bwyd i’r ceirw yn barod ar gyfer ymweliad Siôn Corn.
15 - 16 Rhagfyr
Mae ein cogydd, Marc Cornfield a’i dîm wedi bod yn brysur yn pobi pobl bach sinsir i chi eu haddurno wythnos yma. Dyluniwch berson eich hun, addurnwch nhw ac wedyn bwytwch nhw.
22 - 23 Rhagfyr
Y penwythnos yma fe fyddwn ni’n creu masgiau anifeiliaid o bob lliw a llun i ddathlu ein sioe Nadolig yn y Stiwdio Weston - ‘Duckie’. Gwisgwch eich masg newydd i’r sioe.
26 Rhagfyr – 6 Ionawr
Crëwch gapsiwl amser a’i lenwi gyda’ch breuddwydion a dymuniadau am y flwyddyn i ddod. Addurnwch eich capsiwl a’i gadw'n saff tan Nadolig nesaf.