Tri actor traws-rhywedd yn camu i'r llwyfan. Maen nhw eisiau i chi wrando. Pan fo gan bawb farn, gwrandewch ar y gwirionedd.
Dyma Humanequin, drama am rywedd, hunaniaeth a chael hyd i deulu yn y llefydd mwyaf annhebygol. Gyda'r cyfarwyddwr Jain Boon a'r ysgrifenwraig Kelly Jones, mae'r actorion wedi gweithio law yn llaw ag aelodau o TransForm Cymru a disgyblion o Ysgol Uwchradd Radyr er mwyn dyfeisio Humanequin. Drwy gyfnewid profiadau tebyg a phrofiadau personol, fe grëwyd perfformiad sy'n addysgu, yn herio ac yn pryfocio sgwrs ynglŷn â'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn berson traws yn 2018.
Trafodaeth Queer Arts Collective Nos Wener 23rd Tachwedd, 6pm Ystafell Seligman
A yw’r celfyddydau yn portreadu amrywiaeth o ran rhywedd, a sut y gallwn wella’r modd y mae pobl drawsryweddol yn cael eu cynrychioli ar y llwyfan a’r sgrin?
Trafodaeth agored, a honno’n cael ei chynnal gan aelodau’r Queer Arts Collective.
Nos Sadwrn 24 Tachwedd, 6pm
Ystafell Seligman, Canolfan Mileniwm Cymru (ail lawr)
Ymunwch â ni am drafodaeth cyn y sioe am y broses o greu Humanequin, y berthynas rhwng y celfyddydau ac ymgyrchu, a phwysigrwydd cynrychioli pobl draws ym myd y theatr. Dyma gyfle i glywed gan TransForm Cymru sydd wedi cydweithio, cynghori a helpu gyda’r broses greadigol wrth i sioe Humanequin gael ei chreu.
12+
Capsiynau Caeedig