Mae Roots yn mynd â chi ar daith trwy ddawns gyfoes. Rydym wedi dewis rhai o’n hoff ddarnau ac wedi’u paru gyda thrafodaeth ar y diwedd i’ch helpu i gael at galon y straeon. Gallwch ofyn unrhyw gwestiynau neu eistedd yn ôl a mwynhau.
Byddwch yn gweld tair dawns wedi’u creu gan gymysgedd o dalent leol a choreograffwyr byd enwog. Mae pob un yn stori fer ac yn wahanol i’r un o’i blaen.
Mae Bernadette gan Caroline Finn, coreograffydd preswyl CDCCymru, yn debyg i wylio’r rhannau o’r rhaglen deledu The Great British Bake Off sydd ddim yn cael eu dangos ar y teledu, sydd yn ddoniol iawn, ond hefyd yn ingol ofnadwy. Mae’r darn hwn o ddawns gomedïaidd yn hynod aflêr, yn gorfforol ac yn emosiynol: mae yna flawd a theimladau ym mhobman.
Mae Omerata gan Matteo Marogolia o Gaerdydd yn edrych ar rôl menywod o fewn teuluoedd y Maffia yn yr Eidal. Mae’n dywyll ac yn rhyddhaol gyda cherddoriaeth rymus a gwisgoedd les du cywrain.
Mae Atalay gan y coreograffydd Mario Bermudez Gil sydd wedi ennill gwobrau yn cymryd ysbrydoliaeth o’r Canoldir. Mae’n cyfuno dawns a cherddoriaeth hip-hop, bale, cyfoes a stryd ac mae gan y darn deimlad dynamig a theimladwy.