Roots

Roots

Tŷ Dawns

Tach, 5 – 6

Llwytho…
Gwerthu Allan

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Add to Calendar {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Roots {{::on_sale_date.label}} Tŷ Dawns MM/DD/YYYY 15 event-121

Roots

Tach, 5 – 6

Tŷ Dawns

Mae Roots yn mynd â chi ar daith trwy ddawns gyfoes.  Rydym wedi dewis rhai o’n hoff ddarnau ac wedi’u paru gyda thrafodaeth ar y diwedd i’ch helpu i gael at galon y straeon.  Gallwch ofyn unrhyw gwestiynau neu eistedd yn ôl a mwynhau.

Byddwch yn gweld tair dawns wedi’u creu gan gymysgedd o dalent leol a choreograffwyr byd enwog.  Mae pob un yn stori fer ac yn wahanol i’r un o’i blaen.

Mae Bernadette gan Caroline Finn, coreograffydd preswyl CDCCymru, yn debyg i wylio’r rhannau o’r rhaglen deledu The Great British Bake Off sydd ddim yn cael eu dangos ar y teledu, sydd yn ddoniol iawn, ond hefyd yn ingol ofnadwy.  Mae’r darn hwn o ddawns gomedïaidd yn hynod aflêr, yn gorfforol ac yn emosiynol:  mae yna flawd a theimladau ym mhobman.

Mae Omerata gan Matteo Marogolia o Gaerdydd yn edrych ar rôl menywod o fewn teuluoedd y  Maffia yn yr Eidal.  Mae’n dywyll ac yn rhyddhaol gyda cherddoriaeth rymus a gwisgoedd les du cywrain.

Mae Atalay gan y coreograffydd  Mario Bermudez Gil sydd wedi ennill gwobrau yn cymryd ysbrydoliaeth o’r Canoldir.  Mae’n cyfuno dawns a cherddoriaeth hip-hop, bale, cyfoes a stryd ac mae gan y darn deimlad dynamig a theimladwy.

Tŷ Dawns

Cyflwynwyd yn

Tŷ Dawns