Sut mae cyfansoddwr yn cyfleu tywydd stormus mewn cerddoriaeth? Sut mae disgrifio’r holl dyrfedd a drama drwy sain gerddorfaol fywiog? Caiff y cyngerdd arbennig hwn sy’n para 75 munud, ei gyflwyno gan Jonathan James ac mae’n archwilio sut mae chwe chyfansoddwr gwahanol, dros 200 o flynyddoedd, yn ateb yr her honno; gyda phob darn o waith yn portreadu tywydd eithafol mewn ffordd wahanol, gan ganolbwyntio ar forluniau hyrddiog.
Mae'r cyfansoddwr Ffrengig Hector Berlioz yn ganolog i’r rhaglen. Caiff ei ddathlu fel sgoriwr penigamp a ehangodd y pethau sonig y gallai cerddorfa symffonig eu gwneud; roedd ei Draethawd ar Offeryniaeth yn gyhoeddiad dylanwadol iawn ar gyfer cyfansoddwyr eraill yn y 19eg ganrif a thu hwnt.
Mae’r cyngerdd hwn yn dathlu 150 mlynedd ers marwolaeth Hector Berlioz a bydd yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio 3 rhwng 15 ac 17 Chwefror 2019, fel rhan o benwythnos hir i gofio am y cyfansoddwr.