Ysgrifennwyd gan Louise Wallwein
Cyfarwyddwyd gan Kully Thiarai
Cynlluniwyd gan Camilla Clark
Profiad ymdrochol wedi'i ysgrifennu gan y bardd a dramodydd Louise Wallwein, mi fydd Tide Whisperer yn mynd i'r afael â'r ffenomen byd-eang o ddadleoli a symudiadau torfol.
Mae niferoedd uwch nag erioed yn symud ar draws y byd. Sut beth yw gadael eich cartref, i fyw gyda'r ansicrwydd efallai na fyddwch byth yn dod o hyd i un arall?
Mae The Tide Whisperer yn llawn straeon, yn fythol yn nomad, wedi teithio i'r cefnforoedd ac wedi cael ei gludo gan y llanw i lannau newydd braf.
Ar lannau Dinbych-y-pysgod, mae'r gynulleidfa yn casglu. Mae'r llanw yn troi'n gyflym ac mae storm yn dod. Mae'r dyfodol yn teimlo'n ansicr - mae dynoliaeth yn symud ac yn ceisio lloches. A fyddwn yn wynebu caredigrwydd neu'n cael ei gwrthod; yn cael cynnig lle diogel neu'n gorfod goroesi ar y môr peryglus, brawychus?
Blwyddyn y Môr
Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy'r Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF) ac yn derbyn cefnogaeth y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014- 2020 - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer datblygu gwledig (EAFRD ) a Llywodraeth Cymru. Nod y Gronfa yw annog syniadau arloesol ar gyfer cynnyrch newydd a chydweithio er mwyn cael mwy of effaith a denu mwy o ymwelwyr.
Mae Tide Whisperer yn brofiad theatrig unigryw sy’n digwydd ar strydoedd a glannau Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro.
Ar ddiwrnod y perfformiad, ewch i:
Pafiliwn De Valence
Upper Frog Street
Dinbych-y-pysgod
Sir Benfro
SA70 7JD
- Bydd pob perfformiad yn dechrau am 6.30pm ac yn para tua 2 1/2 awr. Dylech gyrraedd y lleoliad o leiaf 15 munud cyn y perfformiad.
- Mae’r Pafiliwn yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae ystafelloedd ymolchi ar y safle.
- Agorir y drysau i’r Pafiliwn 30 munud cyn y perfformiad i ganiatáu casglu tocynnau a drefnwyd ymlaen llaw. Bydd hefyd cyfle i brynu unrhyw docynnau heb eu gwerthu ar gyfer y perfformiad y diwrnod hwnnw, a bydd staff NTW wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Mae’r Pafiliwn yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae ystafelloedd ymolchi ar y safle.
- Wrth i chi gasglu neu ddangos eich tocynnau, bydd staff NTW yn eich neilltuo chi a phawb yn eich parti i grŵp penodol. Unwaith y bydd y perfformiad yn dechrau, bydd y gynulleidfa yn cael ei gwasgaru ac yn teithio o Bafiliwn De Valence o amgylch Dinbych-y-pysgod yn y grwpiau hyn. Byddwch yn cael eich tywys bob amser gan staff NTW.
- Unwaith i chi adael y Pafiliwn, bydd pob grŵp yn profi eu hanesion a’u straeon eu hunain, a byddant yn cyfarfod cyfres o wahanol gymeriadau mewn trefn benodol fel rhan o’r perfformiad.
- Sylwer bydd y perfformiad bron yn 3 awr o hyd i gyd, a bydd angen i chi allu cerdded pellter o tua milltir. Bydd rhywfaint o hyn i fyny allt.
- Ar adegau allweddol yn ystod y perfformiad, gall NTW ddarparu nifer cyfyngedig o gadeiriau sy’n plygu i’r rheini na allant sefyll am gyfnodau hir, ond bydd y rhan fwyaf o’r perfformiad yn cael ei brofi ar droed/wrth sefyll.
- Cofiwch hefyd y bydd rhai o’r grwpiau cynulleidfa yn profi rhan o’r perfformiad ar gychod, a fydd yn mynd allan ychydig o ffordd ar y dŵr ger Dinbych-y-pysgod. Wrth i staff NTW neilltuo grwpiau cyn i’r perfformiad gychwyn, gofynnir i chi a fyddech yn hapus i fynd ar daith ar gwch. Os nad ydych, byddwch yn cael eich neilltuo i grŵp gwahanol.
- Bydd dyrannu aelodau’r gynulleidfa i grwpiau yn digwydd ar hap ar y diwrnod, felly nid yw’n bosibl i ddewis pa lwybr y byddwch yn ei brofi ymlaen llaw. Mae’r dethol ar hap hwn yn cyd-fynd â themâu a chynnwys y perfformiad.
Mae Tide Whisperer yn hygyrch i’r rhai mewn cadair olwyn, ond rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu eich tocynnau os ydych yn defnyddio cadair olwyn, gan fod nifer cyfyngedig o leoedd cadair olwyn ar gael ar gyfer pob perfformiad. Hefyd bydd yn sicrhau eich bod chi a’ch cydymaith (os ydych yn mynychu gyda chydymaith) yn cael y disgownt cywir ar eich tocyn a bydd yn helpu NTW i wneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad cynulleidfa gorau posibl. -
Ar hyn o bryd rydym yn trefnu perfformiadau ag Iaith Arwyddion Prydain a byddwn yn cadarnhau’r rhain yn fuan iawn.
- Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad neu gwestiynau eraill, cysylltwch â ni drwy e-bost: boxoffice@nationaltheatrewales.org neu ffoniwch Swyddfa NTW: 0292 035 3070.
- Byddwch yn ymwybodol fod y rhan fwyaf o Tide Whisperer yn digwydd yn yr awyr agored, ar strydoedd a thraethau Dinbych-y-pysgod, felly gwiriwch rhagolygon y tywydd ar ddiwrnod y perfformiad a gwisgo’n briodol mewn ymateb i hyn. Dylech hefyd fod yn barod ar gyfer y posibilrwydd y bydd y tywydd yn newid yn ystod y perfformiad, rhywbeth sy’n gallu digwydd ar adegau yng Nghymru.
- Oherwydd themâu, cynnwys a hyd y sioe, y canllaw oed a awgrymir yw 11+. Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau am hyn, ar: boxoffice@nationaltheatrewales.org
- Byddwn yn sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn y nodiadau hyn, ac os byddwch yn archebu eich tocynnau o flaen llaw byddwch yn derbyn crynodeb o’r rhain drwy e-bost, wythnos cyn eich perfformiad dewisol.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Tide Whisperer ym mis Medi.