Opera Cenedlaethol Cymru:

War and Peace

Prokofiev

Theatr Donald Gordon

15, 22 a 29 Medi 2018

Llwytho…
Gwerthu Allan

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Add to Calendar {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London War and Peace {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-115

Opera Cenedlaethol Cymru:

War and Peace

Prokofiev

15, 22 a 29 Medi 2018

Theatr Donald Gordon

Yn seiliedig ar nofel Leo Tolstoy, mae naratif War and Peace yn dilyn trallodion cymdeithas Rwsia wrth i Napoleon agosáu at ffiniau'r wlad.

Mae'r Natasha afieithus a'i dyweddi Andrei yn gweld eu cariad ifanc yn cael ei herio gan demtasiwn, tra bod Pierre, bonheddwr idealistig eisiau newid bywyd yn Rwsia er gwell. Wrth i dynged y tri ymblethu yn ystod ymosodiad 1812, maen nhw'n darganfod bod eu straeon yn datblygu yn ystod cyfnod pan fyddai bywyd yn Rwsia yn newid am byth.

Mae cynhyrchiad newydd David Pountney yr un mor uchelgeisiol ac ar raddfa mor epig â’r nofel ei hun. Gyda set enfawr, tafluniadau fideo a’r gwisgoedd trawiadol gan Marie-Jeanne Lecca yn portreadu urddas cymdeithas Rwsia yn yr 1800au. Bydd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus yn arwain fersiwn unigryw o'r sgôr, yn seiliedig ar argraffiad newydd gan Katya Emrolaeva ac Rita McAllister o waith gwreiddiol Prokofiev, gyda dawnsiau ac ariâu gwych, ac alawon cyffrous.

Cenir yn Saesneg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg.

Canllaw i War and Peace

Pecynnau WNO

3 OPERA 10% I FFWRDD 4 OPERA 15% I FFWRDD 5 OPERA 20% I FFWRDD 6 OPERA 25% I FFWRDD

Canllaw oed: 8+ (Dim plant o dan 2 oed)

Hyd y perfformiad: Tua 3 awr a 53 munud (gydag egwyl o 35 munud)

CYNIGION I GRWPIAU

Grwpiau 10+ Gostyngiad o £4 | Grwpiau 20+ Gostyngiad o £5

Ysgolion

Tocynnau £10 a tocyn athro am ddim fesul bob 10 disgybl. Cysylltwch â'r tîm Gwethiant Grwpiau ar 029 2063 6464 (opsiwn 4) i archebu.

Dan 30 Oed

Tocynnau am £10. Yn gymwys ar seddi pris 3 - 5, yn amodol ar argaeledd.

Dan 16 Oed

Tocynnau am £5. Yn amodol ar argaeledd. 1 tocyn plentyn gydag un oedolyn sy'n talu'n llawn.  Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 029 2063 6464 i archebu.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon