Wicked

31 Hydref – 24 Tachwedd 2018

Theatr Donald Gordon

Mae Wicked, sioe gerdd anhygoel y West End a Broadway, wedi bod yn dod ag ychydig o hud a lledrith i'r byd ers pymtheg mlynedd.

Mae'r sioe yn dal i dorri recordiau yn Theatr Apollo Victoria yn Llundain, ac erbyn hyn mae hi ymhlith y pum sioe sydd wedi bod yn rhedeg hiraf yn y West End.

Ailgread ffraeth a chlyfar o'r straeon a'r cymeriadau a grëwyd gan L. Frank Baum yn 'The Wonderful Wizard of Oz' yw Wicked, sy'n adrodd stori anhygoel sydd heb ei hadrodd o'r blaen am gyfeillgarwch annhebygol ond dwfn rhwng dwy fenyw ifanc sy'n cwrdd am y tro cyntaf fel myfyrwyr dewiniaeth. Drwy anturiaethau gwyllt yn Oz bydd y ddwy yn dod i gyflawni eu ffawd fel y wrach dda, Glinda The Good, a'r wrach ddrwg, y Wicked Witch of the West.

“You could be in a Broadway theatre! Wicked is one of the best touring productions ever to come to the city.”

Bristol Post

Mae Wicked yn cynnwys dros gant o bobl ar y llwyfan a'r tu ôl i'r llenni, gan gynnwys dros 30 yn y cast. Bydd y cynhyrchiad yn hedfan yn ôl i Ganolfan Mileniwm Cymru am un tro olaf yng Nghymru.

Mae'r cast yn cynnwys Amy Ross fel Elphaba, Helen Woolf fel Glinda, Aaron Sidwell (sy'n adnabyddus fel ‘Steven Beale’ yn EastEnders) fel Fiyero, Steven Pinder (sy'n adnabyddus fel ‘Max Farnham’ yn Brookside) fel y Wizard a Doctor Dillamond, Kim Ismay fel Madame Morrible, Emily Shaw fel Nessarose ac Iddon Jones fel Boq. Nikki Bentley yw'r Dirprwy i chwarae Elphaba.

Canllaw oed: 7+ (Dim plant dan 2 oed)

Hyd y perfformiad: tua 2 awr 45 munud yn gynnwys un egwyl

Ychwanegwyd matinée arall yn ôl galw enfawr – Mer 21 Tachwedd, 2.30pm

Argaeledd gorau Maw – Iau

Cynigion i aelodau

Gostyngiad 0 £10 ar 31 Hydref. Aelodaeth

Cynigion i grwpiau

Grwpiau 10+ gostyngiad o £4. Trefnu ymweliad grŵp

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Capsiynau Agored

Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)

Sain Ddisgrifiad

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon

Digwyddiadau Cysylltiedig

{{event.prefix}}

{{event.title}}

{{event.suffix}}