Passion – CDCCymru a Theatr Cerdd Cymru
Cyfle i fynd y tu ôl i’r llenni a gweld CDCCymru a Theatr Cerdd Cymru yn creu eu hopera-dawns Passion.
Rydym yn agor drysau ein hymarferion i’r cyhoedd fel y gallwch gael cipolwg ar yr hyn sy’n digwydd yn y stiwdio. Dyma’r tro cyntaf i CDCCymru gydweithio â Theatr Cerdd Cymru. Dewch i weld sut ydym yn creu dawns fel rhan o’r opera-dawns hon.
Gallwch alw heibio am awr a gweld beth yr ydym wedi bod yn gweithio arno yn yr ymarferion. Cewch weld y cyfarwyddwyr yn cydweithio â’r dawnswyr, gan daflu goleuni ar y dirgelwch a chael profiad y tu ôl i’r llenni gwirioneddol.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i holi cwestiynau ar y diwedd mewn awyrgylch anffurfiol, hamddenol a chyfeillgar. Mae croeso i chi gofnodi’r hyn sy’n digwydd neu eistedd yn ôl a mwynhau.