Oriau mân y bore. Rydych chi ar eich pen eich hun gyda dim ond eich meddyliau. Sut gyrhaeddoch chi yma? A sut ydych chi’n mynd i ddianc?
Drama olaf, ddirdynnol Sarah Kane mewn cynhyrchiad arloesol gan Deafinitely Theatre.
Yn dilyn y rhediad hynod boblogaidd yn 2018, lle gwerthwyd pob tocyn, mae’r cwmni arobryn Deafinitely Theatre yn atgyfodi’r cynhyrchiad amlieithog arbennig yma o ddrama dirdynnol Sarah Kane ar bwnc iechyd meddwl, wedi’i pherfformio mewn Iaith Arwyddion Prydain a Saesneg llafar am y tro cyntaf erioed.
“Sheer courage and passion...an intelligent production of a daringly experimental play”
Deafinitely Theatre yw’r theatr gyntaf yn y DU i gael ei lansio a’i harwain gan bobl fyddar; mae’r cwmni’n llwyfannu cynyrchiadau o ddramâu clasurol a chyfoes ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n fyddar ac yn clywed, gan gyfuno adrodd straeon mewn modd gweledol drwy Iaith Arwyddion Prydain gydag uniongyrchedd yr iaith lafar.
“Essential viewing”
Cyd-gynhyrchiad gyda’r New Diorama Theatre. Gyda chefnogaeth gan y Wellcome Trust a Chyngor Celfyddydau Lloegr.
Canllaw oed: 16+ (dim mynediad i rai dan 13)
Yn cynnwys iaith gref, effeithiau tarth a goleuo strôb, ac yn archwilio materion yn ymwneud ag iechyd meddwl, iselder a hunanladdiad.
Sgwrs holi ac ateb ar ol y sioe yn yr awditoriwm 12 Ebrill, am ddim y sioe.
Hyd y perfformiad: tua 1 awr 25 munud
Talwch Fel Y Mynnwch (20 Tachwedd)
Beth am fentro? Archebwch docynnau am ddim ar gyfer y sioe yma a phenderfynwch ar y noson faint i dalu, yn unol â’ch mwynhad chi. Cofiwch ddod ag arian parod gyda chi.
Rhagor o wybodaeth am ein Nosweithiau Scratch a Thalu Fel y Mynnwch.
Cynigion aelodau
Gostyngiad o £3. Aelodaeth.
Myfyriwr
Tocynnau am £10.
Cynigion yn seiliedig ar dyraniadau ac argaeledd.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)