Ffurfiwyd y band newydd 9 rhan yma yn Awst 2018 ar gyfer ‘gig’ yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Caerdydd.
Rhys Taylor yw’r cyfarwyddwr a threfnwr, ac yn ffan o fand Americanaidd ‘Postmodern Jukebox’, creodd Rhys fersiwn Gymraeg o’r ffenomenon hwn gan ddefnyddio caneuon traddodiadol, poblogaidd ac adnabyddus Cymraeg o’r 60egau lan at heddiw.
Perfformir y caneuon yma mewn amryw o ddulliau gan gynnwys Swing, Ffync, Pop, Roc, Lladin, Jazz a Gospel, ac mae’r band yn barod wedi perfformio mewn gwyliau, partîon, priodasau a rhaglenni teledu ar draws y wlad.
"50 shêd o Santa Clôs" yw fersiwn Nadoligaidd y band, sydd yn perfformio nifer o glasuron Nadolig adnabyddus yn Gymraeg ac mewn steils gwahanol.
Dewch â’ch tinsel, hetiau nadolig ac esgidiau dawnsio ac ymunwch â ni i ddathlu’r Nadolig!
Canllaw oed: 16+
Hyd y perfformiad: tua 2 awr 20 munud
Cynigion
Aelodau Addewid: gostyngiad o £3.
Bwyd a Diod: Ychwanegwch bryd o fwyd a diod i’ch archeb am £15 yr un
Mae’r bar a’r gegin ar agor o 6pm ymlaen ac mae’r sioe yn dechrau am 8pm.