Yn ysbryd gwrthryfela a gwydnwch, bydd Jafar Iqbal yn cyflwyno dau artist sy’n herio normau diwylliannol.
Dancing Queer
Beth ddwedoch chi? Dylai dawnswyr bola gadw’u gwallt yn hir ac eillio eu coesau a’u ceseiliau? Wel nid hon.
Fel rhywun sydd wedi ennill gwobr gan y Cenhedloedd Unedig ac sydd wedi’i galw’n un o gant menyw fwyaf dylanwadol y byd gan y BBC, bydd y ddawnswraig queer yma o’r Aifft – gyda’i thlysau corff, ei thatŵs, ei blew a’i barf – yn cyflwyno perfformiad diffuant ac unigryw.
Holly Morgan: Madonna or Whore
Mae Holly Morgan yn mynd i ddatrys yr holl lanast casáu merched yma sy’n mynd o gwmpas unwaith ac am byth, gan ddefnyddio rhywbeth mae hi’n hanner ei gofio o’r brifysgol am gymhleth y Forwyn a’r Hwren, a’r caneuon pop gorau erioed.
Ymunwch â hi wrth iddi ddefnyddio menywod mwyaf dadleuol hanes fel cyfrwng a gofyn y cwestiynau mawr.
Canllaw oed: 16+
Cynigion
Aelodau Addewid: gostyngiad o £3.
Cynigion cyntaf i’r felin: Ychwanegwch botel o win am £10, neu dewiswch 2 blât bychan ac unai gwydriad o win, peint neu ddiod ysgafn am £15
Mae’r bar a’r gegin ar agor o 6pm ymlaen ac mae’r sioe yn dechrau am 8pm.
Llun gan Diego Maeso.