Yn syth o lwyfan y West End, daw’r cynhyrchiad hynod boblogaidd o Annie yn ôl i Gaerdydd. Mae’r cynhyrchiad yma - ‘glorious revival’ (dywed The Times) - yn serennu Beirniad Strictly Come Dancing, Craig Revel Horwood* fel y Miss Hannigan ormesol!
Mae Annie’n benderfynol o ddod o hyd i’w rhieni go iawn ac, wrth ryw lwc, mae hi’n cael ei dewis i dreulio’r Nadolig yng nghartref y biliwnêr enwog, Oliver Warbucks. Ond mae syniadau sbeitlyd eraill gan Miss Hannigan ac mae hi’n cynllwynio i ddifetha ymdrechion Annie i chwilio am ei rhieni.
Gyda llyfr a sgôr sydd wedi ennill gwobrau, mae’r cynhyrchiad newydd syfrdanol yma’n cynnwys y caneuon bythgofiadwy Hard Knock Life, Easy Street, I Don’t Need Anything But You a Tomorrow. Gallwch betio’ch dimai olaf y byddwch chi wrth eich bodd!
“Lavish Escapism”
*Ni fydd Craig Revel Horwood yn perfformio fel ‘Miss Hannigan’ ar 26 Awst na chwaith ar 30 Awst. Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr Annie warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.
Canllaw oed: 5+ (Dim plant o dan 2)
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys 1 egwyl)
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar 19 Awst. Aelodaeth
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £5. Trefnu ymweliad grŵp
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd