Chi 'di clywed am 'Carolau Llangollen', chi 'di clywed am 'Carolau Llandudno', ond ydych chi'n barod am Carolau Cabarela?
Dewch i gyd-ganu, i gyd-chwerthin a chyd-synnu ar broblemau bywyd y bugeiliaid budur, Y Divas a'r Diceds.
Ymunwch yn Hwyl yr Wyl gyda Herod ei hun, Hywel Pitts.
A'r cyfan i gyflwyniadau nefolaidd ein angylion o uffern, Sorela. (Pam cael un Gabriel pan allwch chi gael tair?!)
Chi meddwl fod y sach yn ddigon llawn?! Os y'ch chi wedi bod yn blant bach drwg drwy'r flwyddyn falle daflwn ni ambell gracyr 'dolig yn eich cyfeiriad chi 'fyd!
Cynigion
Aelodau Addewid: gostyngiad o £3
Bwyd a Diod: Ychwanegwch bryd o fwyd a diod i’ch archeb am £15 yr un
Canllaw Oed: 16+
Hyd y sioe: 110 munud