Dewiswch eich pecyn drwy ddefnyddio’r botymau ar waelod y dudalen; detholwch eich sioeau ac yna caiff y gostyngiad ei gymhwyso yn y basged.
Ni all yr un dyn wrthsefyll swynion hudoles fwyaf y byd opera, Carmen.
Yn ddibryder ac yn llawn bywyd, mae hi'n benderfynol o gadw ei hannibyniaeth, felly pan mae hi'n swyno'r milwr, Don José sy'n aberthu ei hen fywyd iddi, nid yw hi wedi paratoi ar gyfer y digwyddiadau a fydd yn datblygu. Wedi diflasu, mae hi'n troi ei sylw at y golygus Escamillo, ac mae cenfigen Don José yn peri diweddglo cyffrous.
Bydd cynhyrchiad newydd Jo Davies, sydd wedi ei osod yn y gorffennol diweddar, yn cyflwyno'r holl angerdd a drama sy'n ddisgwyliedig o'r opera eiconig yma. Mae cerddoriaeth hudolus Bizet, o'r enwog Toreador Song i Habanera pryfoclyd Carmen, yn datgelu emosiwn y cymeriadau i greu tensiwn a fydd yn eich cadw ar flaen eich sedd.
Cenir yn Ffrangeg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg.
Pecynnau Opera Cenedlaethol Cymru
3 OPERA gostyniad o 10% 4 OPERA gostyngiad o 15% 5 OPERA gostyngiad o 20%Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 50 munud (yn cynnwys un egwyl)
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4. Yn berthnasol i seddi penodol.
YSGOLION
£12.50 — yn berthnasol i seddi penodol. Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
DAN 30 OED
£10 — yn berthnasol i seddi penodol.
DAN 16 OED
£5 — un tocyn plentyn gydag un oedolyn sy'n talu'n llawn.
Cynigion yn seiliedig ar dyraniadau ac argaeled
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd