Wythnos yma yn y Ganolfan byddwn yn creu cartrefi i’r trychfilod bach sy’n ymweld â’ch gardd.
Mae yna lwyth o resymau pam y dylem ni groesawu trychfilod i’n gerddi. Maen nhw’n gallu bod yn fwyd i adar ac ystlumod, yn hanfodol i beillio planhigion, ac i fwydo’r pridd.
Dewch i droi eich gardd yn hafan i drychfilod efo ni!