Rydyn ni wrthi’n trawsnewid cyntedd Glanfa yn oriel gelf newydd sbon, ac mae popeth gennym ni...heblaw am y gwaith celf.
Ymunwch â’n hartistiaid amrywiol a’n curaduron rhyfeddol i greu eich campwaith eich hun – i’w osod ar wal, ar blinth neu yn yr oriel gerfluniau.
Bydd thema newydd bob dydd – o bortreadau a bywyd llonydd i gerfluniau. Cewch becyn yn cynnwys manylion am thema’r dydd, yn ogystal â danteithion a syniadau am beth i’w greu.
Y stiwdio
Dewch i ddechrau hel syniadau ar y stondin sbardun cyn treulio amser gyda’ch teulu yn Y Stiwdio yn creu eich gwaith celf.
Bydd ein harbenigwyr yma i’ch helpu i osod eich gwaith yn yr oriel.
Cofiwch labelu’ch darn, i ni gael gwybod popeth am eich campwaith.
Cadwch lygad barcud am gymeriadau lliwgar o gwmpas y lle, gan gynnwys y beirniad celf, buddsoddwyr, casglwyr, arwerthwr, artistiaid, a grŵp o berfformwyr celfyddyd fyw Norwyaidd.
Ymunwch â ni ar gyfer parti’r agoriad swyddogol ddydd Sadwrn 2 Mawrth am 3pm. Cyfle gwych i chi weld yr arddangosfa gyfan ac i ddathlu eich cyfraniad chi.
Y GORNEL HUNLUN
Cofiwch dynnu llun yn y gornel hunlun, er mwyn bachu ar y cyfle i ennill gwobrau celf gwych, #dygelfdi.
BETH I’W DDISGWYL
Mae ein gweithgareddau i deuluoedd yn gallu bod yn boblogaidd iawn, felly gadewch ddigon o amser, rhag ofn bod ciw.
Bydd y mynediad olaf i’r Stiwdio am 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac am 12pm ar ddydd Sadwrn, ac mae uchafswm i’r nifer sy’n gallu cymryd rhan, rhag i ni gael ein gwasgu fel sardîns
Rydym yn argymell cyfraniad gwirfoddol o £1 gan bob teulu sy’n cymryd rhan. Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn.