Ymunwch â ni ar ddydd Sul y Pasg ar gyfer helfa wyau Pasg tra gwahanol…
Helpwch ein tywyswyr i ddod o hyd i eiddo coll Bwni’r Pasg, a hawliwch wy Pasg ar y diwedd.
Bydd yr helfeydd yn costio £5 fesul person ac yn digwydd am 10am, 10.30am, 11am, 12pm, 12.30pm a 1.30pm.
Mae yna le i 10 gymryd rhan ym mhob helfa, ac mae plant dan 3 oed am ddim.